SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 95

Dair blynedd yn ôl, rhoddodd landlord les 15 mlynedd o hyd o fangre fasnachol i denant. Mae'r les yn cynnwys cymal fforffedu a chyfamod gan y tenant i beidio ag addasu'r fangre heb gydsyniad o flaen llaw y landlord.

Mae'r landlord yn darganfod bod y tenant, heb gysyniad, wedi llenwi un o ffenestri'r fangre â brics ac wedi creu agoriad ffenestr newydd mewn wal arall. Mae'r landlord yn dymuno fforffedu'r les ar y cyfle cynharaf ac mae wedi cyflwyno rhybudd o dan a.146 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 i'r tenant.

Pa un o'r canlynol sy'n esbonio orau'r cyfle cynharaf sydd gan y landlord i fforffedu'r les ac adfeddiannu’r fangre?

A. Yn syth ar ôl cael gorchymyn ildio meddiant (order for possession) gan y llys.

B. Yn syth ar ôl cael caniatâd (leave) y llys i gychwyn achos llys am feddiant.

C. Yn syth ar ôl i'r tenant beidio â chywiro’r toriad (breach) o fewn cyfnod rhesymol drwy ailfynediad heddychlon i’r fangre.

D. Yn syth ar ôl i'r tenant beidio â chywiro’r toriad (breach) o fewn cyfnod rhesymol a chael gorchymyn am feddiant (order for possession) gan y llys.

E. Yn syth drwy ailfynediad heddychlon i'r fangre.


C - Yn syth ar ôl i'r tenant beidio â chywiro’r toriad (breach) o fewn cyfnod rhesymol drwy ailfynediad heddychlon i’r fangre.

Atebodd 48% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE