SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 90

Mae merch 16 oed wedi'i chyhuddo o ymosodiad sy'n achosi gwir niwed corfforol. Mae hi'n cael ei chyhuddo ar y cyd â dyn 20 oed, a gafodd ei gyhuddo ar yr un pryd â'r ferch. Mae'r dyn yn cael ei gynrychioli ar wahân. Mae'r ferch a'r dyn wedi nodi y byddant yn pledio'n ddi-euog i'r cyhuddiad hwn.

Gerbron pa lys bydd y ferch a'r dyn yn ymddangos am y tro cyntaf yn yr achos hwn?

A. Bydd y ferch yn ymddangos am y tro cyntaf gerbron y Llys Ieuenctid a bydd y dyn yn ymddangos am y tro cyntaf gerbron y Llys Ynadon i oedolion.

B. Bydd y ferch a'r dyn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda'i gilydd gerbron y Llys Ynadon i oedolion.

C. Bydd y ferch a'r dyn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda'i gilydd gerbron Llys y Goron.

D. Bydd y ferch a'r dyn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda'i gilydd gerbron y Llys Ieuenctid.

E. Bydd y ferch yn ymddangos am y tro cyntaf gerbron y Llys Ieuenctid a bydd y dyn yn ymddangos am y tro cyntaf gerbron Llys y Goron.


B - Bydd y ferch a'r dyn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda'i gilydd gerbron y Llys Ynadon i oedolion.

Atebodd 69% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE