SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 91

Mae cwmni yn gweithredu ar ran landlord bloc o bum fflat sy'n cael eu dal ar lesi hir. Nid yw'r cwmni'n gweithredu ar ran unrhyw un o'r tenantiaid.

Yn ddiweddar mae'r cwmni wedi datrys anghydfod a gododd ynghylch y swm o dâl gwasanaeth sy'n ddyledus mewn perthynas â phob fflat. Hawliodd y tenantiaid fod eitem o wariant o £5,000 nad oedd yn briodol ddyledus o dan ddarpariaethau tâl gwasanaeth y lesi. Wrth aros am ddatrysiad yr anghydfod, talodd pob tenant £1,000 i'r cwmni i'w ddal yng nghyfrif banc cleientiaid cyffredinol y cwmni.

Mae'r landlord bellach wedi derbyn cyngor y cwmni, sef nad oes modd adfer y swm sy'n destun anghydfod gan y tenantiaid. Mae'r landlord yn gofyn i'r cwmni wneud taliad ar unwaith o £1,000 i bob un o'r tenantiaid o'r cronfeydd mae'r cwmni yn eu dal yn ei gyfrif banc cleientiaid cyffredinol.

A ganiateir i'r cwmni wneud taliad i bob tenant yn unol â chais y landlord?

A. Caniateir hyn, oherwydd bod cysylltiad rhwng y taliadau a chyflawni gwasanaethau a reoleiddir y cwmni.

B. Ni chaniateir hyn, oherwydd nid yw'r cwmni'n gweithredu ar ran unrhyw un o'r tenantiaid.

C. Ni chaniateir hyn, oherwydd nid yw'r tâl cadw (retainer) rhwng cwmni o gyfreithwyr a chleient yn caniatáu taliadau i drydydd partïon.

D. Ni chaniateir hyn, oherwydd nid yw'r taliadau wedi'u cysylltu â gwasanaeth sylfaenol y cwmni mewn perthynas â'r anghydfod eiddo.

E. Caniateir hyn, oherwydd caiff y taliadau eu gwneud o fewn cyfnod byr o amser o ddatrysiad yr anghydfod.


A - Caniateir hyn, oherwydd bod cysylltiad rhwng y taliadau a chyflawni gwasanaethau a reoleiddir y cwmni.

Atebodd 68% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE