SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 89

Dwy fenyw yw unig fuddiolwyr cronfa ymddiriedolaeth. Dyn yw unig ymddiriedolwr y gronfa ymddiriedolaeth.

Mae gan y dyn gyfrif banc cyfredol personol ac mae £3,000 wedi'i or-dynnu. Mewn torymddiriedaeth, mae'r dyn yn trosglwyddo £15,000 o'r gronfa ymddiriedolaeth i'w gyfrif banc cyfredol ac, ar ôl clirio'r gorddrafft, mae hyn yn gadael balans o £12,000 yn y cyfrif banc cyfredol.

Yna mae'r dyn yn penderfynu prynu tŷ am £120,000. Mae'r dyn yn defnyddio'r holl falans yn y cyfrif banc cyfredol o £12,000 i dalu am y blaendal ar y tŷ. Ni wnaed unrhyw dderbynebau (receipts) na thaliadau i mewn i gyfrif banc cyfredol personol y dyn, nac allan ohono, rhwng derbyniad y gronfa ymddiriedolaeth a thaliad y blaendal. Darperir gweddill y pris prynu fel rhodd i'r dyn oddi wrth ei dad. Caiff y teitl i'r tŷ ei drosglwyddo i enw'r dyn yn unig.

Bellach mae'r dyn wedi'i ddyfarnu'n fethdal gyda dyledion gwerth £200,000. Mae gwerth y tŷ wedi codi i £150,000.

Pa un o'r datganiadau canlynol sy'n esbonio orau'r hawliad, os oes un, y dylai'r buddiolwyr ei wneud nawr?

A. Hawliad personol yn erbyn y dyn am £3,000.

B. Hawliad personol yn erbyn y dyn am £15,000, wedi'i sicrhau gan arwystl (charge) ar y tŷ.

C. Hawliad perchnogol (proprietary) am gyfran o 10% o'r tŷ.

D. Hawliad perchnogol (proprietary) am gyfran o 8% o'r tŷ.

E. Nid oes hawliad personol na pherchnogol ar gael yn erbyn y dyn oherwydd ei fod wedi'i ddyfarnu'n fethdal.


C - Hawliad perchnogol (proprietary) am gyfran o 10% o'r tŷ.

Atebodd 50% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE