SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 88

Mae dyn yn gweithio mewn adeilad mawr o swyddfeydd. Drws nesaf i'r adeilad mae sied feiciau sy'n cael ei defnyddio i storio beiciau'r bobl sy'n gweithio yn yr adeilad.

Mae'r dyn wedi sylwi ar hen feic sydd wedi bod yn y sied feiciau ers sawl mis ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw un wedi'i symud. Nid yw'r beic yn sownd wrth unrhyw beth ac mae'r dyn yn meddwl bod ei berchennog wedi'i adael am byth.

Mae gan y dyn ffrind sy'n adnewyddu beiciau. Mae'r dyn yn penderfynu mynd â'r beic a'i roi i'r ffrind am ddim fel y gall y ffrind ei ddefnyddio rhywsut.

Mae'r dyn yn credu bod ganddo hawl foesegol i fynd â'r beic oherwydd ei bod hi'n ymddangos nad oes neb ei eisiau. Nid yw'n gwneud unrhyw ymgais i ganfod perchennog y beic oherwydd ei fod yn credu nad oes modd canfod y perchennog drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny. Mae'r dyn hefyd yn credu, yn anghywir, na fyddai person parchus cyffredin yn meddwl ei bod yn anonest iddo fynd â'r beic dan yr amgylchiadau hyn.

Mae'r dyn yn mynd â'r beic ac yn ei gynnig i'r ffrind. Nid yw'r ffrind eisiau'r beic ac mae'n dweud wrth y dyn y gallai ei weithredoedd fod yn enghraifft o ddwyn. Mae'r dyn yn poeni ac yn dychwelyd y beic i'r un lle yn y sied feiciau.

Pa un o'r ffeithiau canlynol sy'n atal y dyn rhag meddu ar y mens rea angenrheidiol ar gyfer dwyn wrth iddo fynd â'r beic?

A. Roedd e'n credu na fyddai pobl barchus gyffredin yn ystyried y ffaith iddo fynd â'r beic dan yr amgylchiadau hyn i fod yn anonest.

B. Roedd e'n credu na fyddai'n bosibl canfod perchennog y beic drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny.

C. Roedd e'n credu bod ganddo hawl foesegol i fynd â'r beic oherwydd ei fod yn meddwl nad oedd neb eisiau'r beic.

D. Nid oedd wedi bwriadu cymryd y beic oddi wrth y perchennog yn barhaol oherwydd dychwelodd y beic i'r sied feiciau.

E. Nid oedd yn bwriadu elwa'n bersonol oherwydd ei fod wedi bwriadu rhoi'r beic i'r ffrind am ddim.


B - Roedd e'n credu na fyddai'n bosibl canfod perchennog y beic drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny.

Atebodd 43% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE