SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 98

Mae cwmni o gyfreithwyr yn ymrwymo i gytundeb ffi amodol ('y Cytundeb') gyda chleient. Y cleient yw'r hawlydd mewn achos am iawndal (damages) am dorcontract ('yr Hawliad') yn erbyn diffynnydd. Mae'r Cytundeb yn darparu y bydd yr hawlydd yn talu ffi llwyddiant o 50% i'w chyfreithwyr ('y Ffi Llwyddiant') os bydd yr Hawliad yn llwyddo. Yn sgil cyngor ei chyfreithwyr hi, mae'r hawlydd hefyd yn cymryd polisi yswiriant ar ôl y digwyddiad.

Pa gostau fydd yn adferadwy (recoverable) i’r hawlydd gan y diffynnydd os bydd yr Hawliad yn llwyddo mewn treial?

A. Ffioedd ac alldaliadau (disbursements) cyfreithwyr yr hawlydd, ac eithrio'r Ffi Llwyddiant a chost y polisi yswiriant ar ôl y digwyddiad.

B. Ffioedd ac alldaliadau (disbursements) cyfreithwyr yr hawlydd, gan gynnwys y Ffi Llwyddiant ond gan eithrio cost y polisi yswiriant ar ôl y digwyddiad.

C. Ffioedd ac alldaliadau (disbursements) cyfreithwyr yr hawlydd, ac eithrio'r Ffi Llwyddiant ond gan gynnwys cost y polisi yswiriant ar ôl y digwyddiad.

D. Ffioedd cyfreithwyr yr hawlydd, gan gynnwys y Ffi Llwyddiant ond gan eithrio eu halldaliadau (disbursements) a chost y polisi yswiriant ar ôl y digwyddiad.

E. Ffioedd ac alldaliadau (disbursements) cyfreithwyr yr hawlydd, gan gynnwys y Ffi Llwyddiant a chost y polisi yswiriant ar ôl y digwyddiad.


A - Ffioedd ac alldaliadau (disbursements) cyfreithwyr yr hawlydd, ac eithrio'r Ffi Llwyddiant a chost y polisi yswiriant ar ôl y digwyddiad.

Atebodd 66% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE