SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 97

Mae cyfreithiwr wedi'i gyflogi i ddarparu cyngor cyfreithiol i dimau o staff yn Nhŷ'r Cyffredin. Gofynnir i'r cyfreithiwr baratoi nodyn yn esbonio athrawiaeth Sofraniaeth Seneddol, i'w gynnwys mewn canllaw i ymwelwyr â'r Tŷ.

Mae'r cyfreithiwr yn ystyried rhai enghreifftiau o Sofraniaeth Seneddol, i egluro sut y gellir dweud mai Senedd y DU yw'r awdurdod cyfreithiol goruchaf yn y DU. Mewn camgymeriad mae e'n cynnwys ymarfer pŵer nad yw'n enghraifft o’r athrawiaeth.

Pa un o'r enghreifftiau canlynol o arfer pŵer Seneddol y mae'r cyfreithiwr wedi'i gynnwys mewn camgymeriad?

A. Gall y Senedd reoleiddio a newid olyniaeth i orsedd Prydain.

B. Gall y Senedd addasu neu ddisodli ei gweithdrefn ei hun ar gyfer pasio deddfwriaeth.

C. Gall y Senedd basio deddfwriaeth furiedig (entrenched legislation) na ellir ei diddymu (repealed).

D. Gall y Senedd basio deddfwriaeth ynghylch materion sydd wedi'u datganoli i Senedd yr Alban.

E. Gall y Senedd basio deddfwriaeth sydd ag effaith ôl-weithredol (retrospective effect).


C - Gall y Senedd basio deddfwriaeth furiedig (entrenched legislation) na ellir ei diddymu (repealed).

Atebodd 58% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE