SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 96

Mae dyn a menyw yn ymweld â pharc thema mae cwmni yn berchen arno ac yn ei gynnal. Mae'r dyn yn prynu dau docyn iddynt gael mynediad. Ar gefn y tocynnau, mae'r cwmni wedi gosod ymwadiad atebolrwydd (liability disclaimer) am anaf personol, sy'n dweud: "Dim atebolrwydd am farwolaeth nac anaf personol sut bynnag y’u hachosir."

Mae'r fenyw yn mynd ar y reid colli cylla (rollercoaster). Mae'r cerbyd y mae hi'n teithio ynddo yn datgysylltu o'i draciau oherwydd esgeuluster cynnal a chadw ac mae hi'n cael ei thaflu i'r llawr. Mae hi'n dioddef anaf personol ac yn ceisio cyngor gan gyfreithiwr am hawlio digollediad (compensation) am ei hanafiadau. Mae'r cyfreithiwr yn ystyried a allai dyletswydd o dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 ('y Ddeddf') fodoli.

Pa un o'r datganiadau isod sy'n disgrifio orau ddyletswydd y cwmni, os o gwbl, i'r fenyw o dan y Ddeddf?

A. Nid oes ar y cwmni ddyletswydd iddi oherwydd yr ymwadiad.

B. Mae ar y cwmni ddyletswydd iddi i sicrhau bod y reid yn ddiogel.

C. Nid oes ar y cwmni ddyletswydd iddi oherwydd nid yw'r reid yn fangre (premises) o dan y Ddeddf.

D. Mae ar y cwmni ddyletswydd iddi i sicrhau ei bod hi’n rhesymol ddiogel wrth ddefnyddio'r reid.

E. Nid oes ar y cwmni ddyletswydd iddi oherwydd nid hi a brynodd docyn.


D - Mae ar y cwmni ddyletswydd iddi i sicrhau ei bod hi’n rhesymol ddiogel wrth ddefnyddio'r reid.

Atebodd 62% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE