SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 95

Mae partneriaeth yn cytuno i dalu £15,000 i gwmni i logi neuadd fawr yn Llundain ar gyfer arddangosfa ar 1 Mawrth. Mae £5,000 yn daladwy ar 14 Chwefror ac mae'r balans yn ddyledus ar 28 Chwefror. Nid yw'r bartneriaeth yn gwneud y taliad o £5,000.

Ar 26 Chwefror, mae'r cwmni'n gwario £2,000 ar gontractwyr sy'n gosod y neuadd gyda chyfarpar, byrddau, cadeiriau a byrddau arddangos.

Ar 27 Chwefror, mae gollyngiad dŵr mawr yn digwydd yn y neuadd, heb unrhyw fai ar y cwmni. Mae'r contract wedi’i rwystro (is frustrated).

Mae'r bartneriaeth yn pryderu y gallai'r cwmni geisio adennill taliad ganddi ac yn cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch ei hatebolrwydd posibl.

Pa swm, os o gwbl, mae'n debygol y bydd llys yn ei orchymyn i'r bartneriaeth ei dalu i'r cwmni?

A. £5,000, sef y swm sy'n daladwy cyn dyddiad y digwyddiad sydd wedi’i rwystro.

B. £7,000, sef y swm sy'n daladwy a'r treuliau a ysgwyddwyd cyn dyddiad y digwyddiad sydd wedi’i rwystro.

C. £13,000, sef cyfanswm y swm sy'n ddyledus o dan y contract yna tynnu’r treuliau a ysgwyddwyd cyn dyddiad y digwyddiad sydd wedi’i rwystro.

D. £2,000, sef swm y treuliau a ysgwyddwyd cyn dyddiad y digwyddiad sydd wedi’i rwystro.

E. Dim, nid oes unrhyw arian a oedd yn ddyledus o dan y contract yn daladwy mwyach.


D - £2,000, sef swm y treuliau a ysgwyddwyd cyn dyddiad y digwyddiad sydd wedi’i rwystro.

Atebodd 55% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?