SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 103

Mae Aelod Seneddol (AS) yr wrthblaid yn gwneud datganiad mewn pwyllgor dethol seneddol. Yn y datganiad mae'n cyfeirio at dystiolaeth a roddwyd iddo gan newyddiadurwr cudd (undercover) sy’n feirniadol o arferion gwaith cwmni mawr, y mae e'n ei enwi. Mae datganiad yr AS yn cael sylw yn eang yn y wasg. Ymateb y cwmni yw bod y newyddiadurwr wedi camgyfleu ei arferion gwaith yn llwyr. O ganlyniad, hoffa'r cwmni ddwyn achos difenwi (defamation) yn erbyn yr AS a'r newyddiadurwr.

Mae’r AS o’r gred ei fod wedi'i ddiogelu rhag hawliad o'r fath gan freintiau seneddol. Mae'n cysylltu â'r Pwyllgor Breintiau i gael eglurhad am y sefyllfa.

A yw'r AS wedi'i ddiogelu gan freintiau seneddol am y datganiad a wnaeth yn y pwyllgor dethol seneddol?

A. Nac ydy, mae breintiau seneddol dim ond yn berthnasol i ddatganiadau a wneir gan Aelodau Seneddol o'r blaid sy’n llywodraethu.

B. Nac ydy, mae breintiau seneddol dim ond yn berthnasol i ddatganiadau a wneir mewn pwyllgorau dethol seneddol pan fo materion diogelwch gwladol yn cael eu trafod.

C. Nac ydy, mae breintiau seneddol dim ond yn berthnasol i ddatganiadau a wneir gan weinidogion mewn ymateb i gwestiynau penodol yn siambr Tŷ'r Cyffredin.

D. Ydy, mae breintiau seneddol yn berthnasol i holl drafodion y Senedd.

E. Ydy, mae breintiau seneddol yn berthnasol i unrhyw ddatganiad a wneir gan AS sy’n deillio o'i waith yn y Senedd, waeth beth fo'r lleoliad.


D - Ydy, mae breintiau seneddol yn berthnasol i holl drafodion y Senedd.

Atebodd 59% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE