SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 104

Mae cyfreithiwr yn gweithio mewn adran ymgyfreitha mewn cwmni o gyfreithwyr. Mae hi'n sylweddoli bod dau o'i materion wedi'u rhestru ar gyfer gwrandawiadau 30 munud o hyd yr un, yn yr un ganolfan llysoedd yn ystod yr un bore, ond gerbron barnwyr gwahanol. Mae'r gwrandawiad cyntaf wedi'i drefnu i ddechrau am 10.30am ('y Gwrandawiad Cyntaf'). Mae'r ail wrandawiad wedi'i drefnu i ddechrau am 11am ('yr Ail Wrandawiad').

Mae'r cyfreithiwr yn bwriadu mynd i'r ddau wrandawiad gan ei bod hi’n credu mai hi fyddai'r person gorau i gynrychioli'r cleientiaid gan ei bod hi’n gyfarwydd â'r ddau fater. Mae hi hefyd yn credu y bydd y Gwrandawiad Cyntaf yn gorffen yn ddigon cynnar iddi gyrraedd yr Ail Wrandawiad mewn pryd. Felly mae hi am osgoi cynyddu'r gost i'r naill gleient neu'r llall trwy gyfarwyddo bargyfreithiwr i fynd i un o'r gwrandawiadau.

Mae'r cyfreithiwr yn ymddangos yn y Gwrandawiad Cyntaf. Mae hi'n canfod ei bod hi’n cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd i berswadio'r barnwr i ddyfarnu o blaid ei chleient ac mae'r gwrandawiad yn para'r 30 munud llawn.

Mae'r cyfreithiwr ddeng munud yn hwyr ar gyfer yr Ail Wrandawiad. Mae'r barnwr yn ceryddu (reprimands) y cyfreithiwr yn llym am gadw nifer o bobl yn aros, gan nodi nad yw am wrando ar ei rhesymau dros fod yn hwyr. Ar ôl clywed dadleuon ar y rhinweddau (merits), mae'r barnwr yn dyfarnu yn erbyn cleient y cyfreithiwr. Mae'r barnwr yn gwneud gorchymyn costau a wastraffwyd yn erbyn y cyfreithiwr mewn perthynas â'r amser y bu’n rhaid i’r ochr arall aros nes i’r cyfreithiwr gyrraedd.

A wnaeth y cyfreithiwr dorri Cod Ymddygiad yr SRA ar gyfer Cyfreithwyr, Cyfreithwyr Cofrestredig Ewrop (RELs), Cyfreithwyr Cofrestredig Tramor (RFLs) a Chyfreithwyr Cofrestredig y Swistir (RSLs) trwy fod yn hwyr i’r Ail Wrandawiad?

A. Gwnaeth, gan ei bod hi’n gwastraffu amser y llys.

B. Gwnaeth, gan fod ei gweithredoedd hi wedi creu gwrthdaro buddiannau rhwng ei dau gleient.

C. Na wnaeth, gan ei bod hi’n gweithredu er budd gorau ei chleientiaid i arbed costau.

D. Na wnaeth, gan na wnaeth y llys roi ystyriaeth briodol i'w rheswm dros fod yn hwyr.

E. Na wnaeth, gan fod y llys wedi cosbi ei hymddygiad gyda gorchymyn costau a wastraffwyd.


A - Gwnaeth, gan ei bod hi’n gwastraffu amser y llys.

Atebodd 48% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE