SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 100

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran dyn sy'n rhedeg siop ac sy'n ddiffynnydd mewn hawliad dyled a gafodd ei gychwyn a’i gyflwyno (issued and served) dri mis yn ôl.

Mae'r dyn yn derbyn bod yr hawlydd wedi cyflenwi ac anfon nwyddau ato ac nad yw’r anfoneb am y nwyddau hynny, sef £14,000, wedi’i thalu eto. Fodd bynnag, mae'r dyn yn honni bod y nwyddau yn ddiffygiol ac yn anaddas i'w defnyddio ac felly nid oedd yn gallu agor ei siop oherwydd diffyg stoc. Mae e'n cyflwyno gwrth-hawliad am y colledion elw a ysgwyddodd o ganlyniad. Gwerth y gwrth-hawliad yw £12,000.

Mae'r ddau barti yn ceisio llog a chostau. Amcangyfrifir mai hyd y treial fydd hanner diwrnod ac ni fydd y naill barti na'r llall yn galw am dystiolaeth arbenigol.

I ba drac mae’r llys fwyaf tebygol o ddyrannu'r achos iddo a pham?

A. Y trac canolradd, oherwydd gwerth cyfunedig yr hawliad a'r gwrth-hawliad.

B. Y trac cyflym, oherwydd gwerth hawliad yr hawlydd.

C. Y trac hawliadau bychain, oherwydd hyd amcangyfrifedig y treial.

D. Y trac hawliadau bychain, oherwydd y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y ddau hawliad.

E. Y trac cyflym, oherwydd bod y ddau barti yn hawlio llog a chostau.


B - Y trac cyflym, oherwydd gwerth hawliad yr hawlydd.

Atebodd 62% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE