SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 101

Mae dyn 25 oed yn cael ei anafu mewn damwain traffig ffordd a achoswyd gan yrrwr lorri esgeulus. Mae'r dyn yn cael ei daro'n anymwybodol (unconscious) ac yn cael ei gludo i'r ysbyty. Nid yw'n dod yn ymwybodol eto gan ei fod wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben. Mae'n parhau'n anymwybodol am chwe mis, ac wedi hynny mae'n marw o'i anafiadau.

Roedd y dyn yn gefnogwr pêl-droed brwd, gan fynychu pob gêm gartref ac oddi cartref ei dîm lleol. Roedd wedi'i gyflogi fel ceidwad sŵ.

Mae mam y dyn, yn rhinwedd ei rôl fel gweinyddwr ei ystad, yn dymuno dwyn hawliad mewn esgeuluster yn erbyn gyrrwr y lorri am ddigollediad (compensation). Cynghorir y fam yn gywir fod yr hawliad yn debygol o lwyddo ac y bydd iawndal (damages) yn cael ei ddyfarnu i’r ystad hyd at ddyddiad marwolaeth y dyn.

Ar gyfer pa un/rai o’r categorïau colled canlynol y bydd yr ystad yn cael digollediad?

A. Colli amwynder a cholli enillion yn unig.

B. Poen a dioddefaint, a cholli enillion yn unig.

C. Colli amwynder yn unig.

D. Poen a dioddefaint, colli amwynder a cholli enillion.

E. Poen a dioddefaint yn unig.


A - Colli amwynder a cholli enillion yn unig.

Atebodd 39% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE