SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 94

Mae menyw yn rhoi £100,000 o arian parod mewn ymddiriedolaeth i'w phlant a'i hwyrion a'i hwyresau. Mae'r fenyw yn penodi dau o'i ffrindiau, y mae'r ddau ohonynt yn athrawon, i fod yn ymddiriedolwyr. Nid oes gan yr ymddiriedolwyr brofiad blaenorol o weinyddu ymddiriedolaethau ac nid ydynt yn derbyn unrhyw gydnabyddiaeth (remuneration) am roi o'u hamser i weinyddu'r ymddiriedolaeth.

Mae'r offeryn ymddiriedolaeth yn cynnwys cymal sy'n eithrio atebolrwydd ymddiriedolwyr am unrhyw dordyletswydd: "sut bynnag y’i hachosir, i'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith." Ni thrafododd y fenyw'r cymal hwn â naill ai'r ymddiriedolwyr na'r buddiolwyr.

Mae'r ymddiriedolwyr yn credu eu bod nhw'n gweithredu er budd gorau'r buddiolwyr wrth iddynt fuddsoddi'r gronfa ymddiriedolaeth gyfan mewn cwmni sydd newydd ei sefydlu. Nid ydynt yn ystyried y meini prawf buddsoddi safonol nac yn cael cyngor proffesiynol cyn gwneud y buddsoddiad.

Mae'r cwmni bellach wrthi'n cael ei ddatod (in liquidation) ac mae'r cyfrannau'n ddi-werth. Mae'r buddiolwyr yn siwio'r ymddiriedolwyr am dorri eu dyletswydd gofal statudol a'u pŵer i fuddsoddi.

A fydd yr ymddiriedolwyr yn gallu dibynnu ar y cymal eithrio yn yr offeryn ymddiriedolaeth?

A. Byddant, oherwydd eu bod nhw wedi gweithredu'n onest.

B. Byddant, oherwydd nid ydynt yn cael cydnabyddiaeth.

C. Byddant, oherwydd ni wnaethon nhw achosi i'r fenyw gynnwys y cymal yn yr offeryn ymddiriedolaeth.

D. Na fyddant, oherwydd ni ellir eithrio atebolrwydd yr ymddiriedolwyr am dorri dyletswydd statudol.

E. Na fyddant, oherwydd ni wnaeth y buddiolwyr gydsynio i'r cymal eithrio.


A - Byddant, oherwydd eu bod nhw wedi gweithredu'n onest.

Atebodd 36% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE