SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 87

Mae menyw yn gwneud ewyllys dilys sy'n cynnwys y cymal canlynol:

"RHODDAF gymynrodd ariannol (pecuniary legacy) gwerth £30,000 i'm plant mewn cyfrannau cyfartal."

Rhoddir gweddill ystad y fenyw i'w gŵr.

Mae'r fenyw yn marw ac mae'r ysgutorion yn gofyn am gyngor ynghylch dosbarthu'r gymynrodd ariannol o £30,000.

Mae gŵr y fenyw yn ei goroesi hi. Roedd ganddi ddau o blant, merch sy'n oedolyn sy'n ei goroesi a mab a fu farw cyn hi. Mae plentyn y mab sy'n oedolyn (sef ŵyr y fenyw) yn goroesi'r fenyw. Nid oedd gan y fenyw unrhyw berthnasau eraill.

Sut caiff y gymynrodd ariannol o £30,000 ei dosbarthu?

A. I'r ferch a'r gŵr yn unig mewn cyfrannau cyfartal.

B. I'r gŵr yn unig.

C. I'r ferch yn unig.

D. I'r ferch ac ystad y mab yn unig mewn cyfrannau cyfartal.

E. I'r ferch a'r ŵyr yn unig mewn cyfrannau cyfartal.


E - I'r ferch a'r ŵyr yn unig mewn cyfrannau cyfartal.

Atebodd 69% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE