SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 81

Caiff dyn ei gyhuddo o fwrglera tŷ annedd ddibreswyl (unoccupied dwelling house) lle caiff nwyddau trydanol eu dwyn. Caiff ei ryddhau ar fechnïaeth o orsaf yr heddlu i fynd i'r gwrandawiad cyntaf yn y Llys Ynadon. Nid oes gan y dyn euogfarnau blaenorol.

Mae cyfreithiwr y dyn yn derbyn manylion cychwynnol achos yr erlyniad cyn y gwrandawiad cyntaf ac yn cymryd cyfarwyddiadau'r dyn. Mae'r dyn yn gwadu'r honiad o fwrgleriaeth ac mae ei gyfreithiwr yn ei gynghori i gyflwyno ple dieuog yn y gwrandawiad cyntaf. Mae'r dyn yn dweud wrth ei gyfreithiwr yr hoffai gael ei dreial yn Llys y Goron gerbron rheithgor. Mae'n gofyn i'w gyfreithiwr sut y gwneir y penderfyniad am ble i gynnal ei dreial am drosedd bwrgleriaeth.

Pa gyngor dylai'r cyfreithiwr ei roi mewn perthynas â sut y gwneir penderfyniad am ble i gynnal treial y dyn?

A. Bydd yr ynadon yn penderfynu a ddylent dderbyn awdurdodaeth am y treial ac os bydd yr ynadon yn derbyn awdurdodaeth, gall y dyn ddewis cael treial yn Llys y Goron gerbron rheithgor.

B. Rhaid i'r ynadon anfon yr achos at Lys y Goron ar gyfer treial a chaiff y dyn ei brofi gan reithgor.

C. Mae gan yr ynadon awdurdodaeth weithredol (exclusive jurisdiction) dros achos y dyn ac ni ellir ei brofi yn Llys y Goron gan reithgor.

D. Bydd yr ynadon yn penderfynu derbyn yr awdurdodaeth am y treial a dim ond os bydd yr ynadon yn gwrthod awdurdodaeth y gellid profi'r dyn mewn Llys y Goron gerbron rheithgor.

E. Bydd yr ynadon yn gwahodd y dyn i ddewis a ddylid ei brofi yn Llys y Goron gerbron rheithgor.


A - Bydd yr ynadon yn penderfynu a ddylent dderbyn awdurdodaeth am y treial ac os bydd yr ynadon yn derbyn awdurdodaeth, gall y dyn ddewis cael treial yn Llys y Goron gerbron rheithgor.

Atebodd 61% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE