SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 25

Bu farw ewyllysiwr gan adael ewyllys a nododd ei fod yn rhoi ei ystad gyfan mewn cyfrannau cyfartal i’w fab a’i ferch sy’n oedolion.

Roedd asedau’r ystad yn cynnwys cyfrannau mewn cwmni ar Gyfnewidfa Stoc Llundain a oedd â gwerth profiant o £100,000. Trosglwyddwyd hanner y cyfrannau i’r mab a throsglwyddwyd yr hanner arall i’r ferch. Ar ddyddiad trosglwyddo’r cyfrannau, cyfanswm gwerth y cyfrannau oedd £150,000.

Fis yn ddiweddarach, gwerthodd y ferch ei holl gyfrannau, a’r enillion gwerthu net oedd £85,000. Ddau fis yn ddiweddarach, gwerthodd y mab ei holl gyfrannau a’r enillion gwerthu net oedd £45,000. Nid yw’r ysgutor wedi cwblhau gweinyddu’r ystad eto.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n disgrifio orau’r sefyllfa o safbwynt Treth Enillion Cyfalaf ar y cyfrannau a werthwyd yn ystod y cyfnod gweinyddu?

A. Bydd y ferch yn gwneud enillion, bydd y mab yn gwneud colled ac ni fydd yr ysgutor yn gwneud colled nac enillion.

B. Bydd y ferch yn gwneud enillion; ni fydd yr ysgutor na’r mab yn gwneud colled nac enillion.

C. Bydd yr ysgutor a’r ferch yn gwneud enillion; bydd y mab yn gwneud colled.

D. Bydd yr ysgutor yn gwneud enillion; ni fydd y ferch na’r mab yn gwneud colled nac enillion.

E. Bydd yr ysgutor a’r ferch yn gwneud enillion, ni fydd y mab yn gwneud colled nac enillion.


A - Bydd y ferch yn gwneud enillion, bydd y mab yn gwneud colled ac ni fydd yr ysgutor yn gwneud colled nac enillion.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE