SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 18

Mae dyn yn gweld carafán mewn cae ac yn penderfynu ei rhoi ar dân. Nid yw’n ystyried a oes unrhyw un yn y garafán cyn iddo ei rhoi ar dân.

Fodd bynnag, mae menyw yn y garafán sy’n methu dianc oherwydd y mwg ac sy’n llosgi i farwolaeth wrth i’r garafán gael ei dinistrio gan y tân. Roedd y dyn wedi bwriadu dinistrio eiddo’n anghyfreithlon ond nid oedd yn bwriadu niweidio unrhyw un.  

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau atebolrwydd y dyn o safbwynt dynladdiad drwy weithred anghyfreithlon (unlawful act manslaughter)?

A. Nid yw’n euog gan nad oedd y weithred anghyfreithlon o ddinistrio’r garafán ynddi’i hun yn peryglu bywyd.

B. Nid yw’n euog gan nad oedd yn bwriadu peryglu bywyd rhywun wrth ddinistrio’r garafán.

C. Mae’n euog gan ei fod wedi ymddwyn gydag esgeuluster difrifol (gross negligence) o safbwynt niweidio rhywun a allai fod yn y garafán, wrth ei rhoi ar dân.

D. Mae’n euog gan ei fod wedi cyflawni gweithred anghyfreithlon a pheryglus sydd wedi lladd y fenyw.

E. Mae’n euog gan ei fod wedi ymddwyn yn ddi-hid (recklessly) o safbwynt niweidio rhywun a allai fod yn y garafán wrth ei rhoi ar dân.


D - Mae’n euog gan ei fod wedi cyflawni gweithred anghyfreithlon a pheryglus sydd wedi lladd y fenyw.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE