SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 109

Mae tyst yn dweud wrth yr heddlu y gwelodd hi ladrad yn digwydd. Mae hi'n dweud yr oedd ganddi olwg clir a dirwystr o'r person a welodd hi'n cyflawni'r lladrad ('y Lleidr'). Mae'r tyst yn rhoi disgrifiad i'r heddlu o'r Lleidr. Mae hi'n dweud wrth yr heddlu nad oedd hi'n adnabod y Lleidr fel rhywun a oedd yn gyfarwydd iddi. Mae'r heddlu'n arestio dyn ar amheuaeth o fod y Lleidr.

Mae'r dyn yn gwadu mai fe yw'r Lleidr.

Mae'r tyst yn mynd i weithdrefn adnabod fideo (video identification procedure) yng ngorsaf yr heddlu ond nid yw'n nodi'r dyn fel y Lleidr. Caiff y dyn ei gyhuddo o'r lladrad ac mae'n pledio'n ddieuog.

A fydd canllawiau Turnbull yn berthnasol i dystiolaeth y tyst yn nhreial y dyn?

A. Bydd, oherwydd rhoddodd y tyst ddisgrifiad o'r Lleidr.

B. Bydd, oherwydd ni wnaeth y tyst honni ei bod hi'n adnabod y Lleidr fel rhywun a oedd yn gyfarwydd iddi cyn bod yn dyst i'r lladrad.

C. Na fydd, oherwydd bod golwg clir, dirwystr y tyst o'r Lleidr yn golygu bod ei disgrifiad o ansawdd da.

D. Na fydd, oherwydd nid yw'r tyst wedi adnabod y dyn fel y Lleidr.

E. Bydd, oherwydd aeth y tyst i weithdrefn adnabod.


D - Na fydd, oherwydd nid yw'r tyst wedi adnabod y dyn fel y Lleidr.

Atebodd 46% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE