SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 110

Mae tad yn prynu polisi yswiriant bywyd dros ei fywyd ei hun. Mae e'n ei ysgrifennu mewn ymddiriedolaeth i'w ferch yn ddiamod (absolutely).

Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, mae ei ferch yn marw gan adael ewyllys sy'n rhoi ei hystad gyfan i'w phartner. Mae partner a mab y ferch yn ei goroesi.

Bu farw'r tad ychydig o flynyddoedd ar ôl ei ferch, gan adael ewyllys. Hoffai ysgutorion y tad wybod pwy sydd â hawl i'r polisi bywyd sydd â gwerth £100,000 erbyn hyn. Gwerth y polisi oedd £75,000 pan fu farw'r ferch.

Sut caiff enillion y polisi bywyd eu dosbarthu?

A. Yr holl enillion i ystad y tad o dan delerau ei ewyllys ef.

B. Yr holl enillion i ystad y ferch o dan delerau ei hewyllys hi.

C. Yr holl enillion i ystad y ferch a dan gyfreithiau diewyllysedd.

D. Y swm o £75,000 i ystad y ferch o dan gyfreithiau diewyllysedd a'r swm o £25,000 i ystad y tad o dan delerau ei ewyllys ef.

E. Y swm o £75,000 i ystad y ferch o dan delerau ei hewyllys hi a'r swm o £25,000 i ystad y tad o dan delerau ei ewyllys ef.


B - Yr holl enillion i ystad y ferch o dan delerau ei hewyllys hi.

Atebodd 52% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE