SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 102

Mae dyn sydd wedi bod yn gweithio i fanc rhyngwladol wedi cael ei gyhuddo o dwyll drwy ymliwiad (fraud by false representation). Mae'r dyn wedi bod yn ffugio cyfraddau llog drwy wneud datganiadau ffug am gyfraddau benthyg sydd wedi bod yn andwyol yn gyffredinol i fenthycwyr ond yn fantais fasnachol i'w gyflogwr.

Er yr oedd y dyn yn gwybod bod y datganiadau roedd yn eu gwneud yn anwir, mae'n dweud bod ei ymddygiad yn ymarfer cyffredin yn y diwydiant bancio ac yn cael ei annog gan ei gyflogwyr ac o ganlyniad nid oedd e'n credu ei fod yn gwneud unrhyw beth o'i le. Mae'r dyn yn wynebu treial am drosedd o dwyll drwy gamliwio.

Pa un o'r canlynol, pe bai'n cael ei profi, fyddai'n arwain at ganfod y dyn yn ddieuog?

A. Roedd ei ymddygiad yn ymddygiad cyffredin yn y diwydiant bancio.

B. Anogwyd ei ymddygiad gan ei gyflogwyr.

C. Ni wnaeth unrhyw elw ariannol iddo'i hun.

D. Dim ond bwriadu sicrhau mantais fasnachol i'w gyflogwyr oedd ef, nid achosi colled i rywun arall.

E. Nid oedd e’n anonest.


E - Nid oedd e’n anonest.

Atebodd 61% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE