SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 103

Mae dyn a'i gymydog yn berchen ar eiddo cyfagos rhydd-ddaliadol, cofrestredig.

Mae'r dyn yn cytuno gyda'i gymydog y gall y dyn groesi tir y cymydog fel llwybr byrrach ('y Llwybr') i weithle'r dyn yn hytrach na cherdded ar hyd y brif ffordd brysur gerllaw. Mae lôn lle mae’r dyn wedi bod yn defnyddio'r Llwybr sawl gwaith yr wythnos ers 22 mlynedd. Mae'r dyn yn aml yn cwrdd â'r cymydog yn cerdded ar hyd y Llwybr.

Nid yw eu cytundeb wedi'i gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir.

Ddeufis yn ôl, dywedodd y cymydog wrth y dyn ei bod hi'n tynnu ei chaniatâd hi iddo ddefnyddio'r Llwybr yn ôl.

A oes gan y dyn hawl tramwy gyfreithiol dros dir y cymydog drwy ei ddefnydd o'r Llwybr?

A. Oes, oherwydd bod y dyn wedi defnyddio'r Llwybr ers mwy nag 20 mlynedd heb orfodaeth na chyfrinachedd (without force or secrecy).

B. Oes, oherwydd bod y dyn wedi defnyddio'r Llwybr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac hynny o fewn gwybodaeth wirioneddol y cymydog.

C. Oes, oherwydd bod defnydd y dyn o'r Llwybr yn barhaus ac yn amlwg.

D. Nac oes, oherwydd nid yw'r defnydd o'r Llwybr wedi'i gofnodi ar gofrestr o deitl tir y cymydog.

E. Nac oes, oherwydd rhoddodd y cymydog ganiatâd iddo ddefnyddio'r Llwybr.


E - Nac oes, oherwydd rhoddodd y cymydog ganiatâd iddo ddefnyddio'r Llwybr.

Atebodd 35% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE