SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 99

Mae gan gwmni cyfyngedig preifat bedwar cyfranddaliwr cyffredin. Mae Cyfranddaliwr 1 a Chyfranddaliwr 2 yn berchen ar 30% yr un o gyfrannau cyffredin y cwmni; mae Cyfranddaliwr 3 a Chyfranddaliwr 4 yn berchen ar 20% yr un o gyfrannau cyffredin y cwmni. Mae gan y cwmni erthyglau enghreifftiol heb eu diwygio fel a bennwyd yn Atodlen 1 i Reoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008.

Yn ddiweddar, derbyniodd pob un o’r cyfranddalwyr rybudd priodol o gyfarfod yr aelodau. Cynullwyd y cyfarfod i geisio cymeradwyaeth y cyfranddalwyr ar gyfer cynnig i ymrwymo i gontract gwasanaeth gydag un o gyfarwyddwyr y cwmni am dymor penodol o bum mlynedd. Gwnaed cais am bleidlais gyfrannau (poll vote) yn briodol yng nghyfarfod yr aelodau.

Dim ond Cyfranddaliwr 1 a Chyfranddaliwr 3 a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, ac ni phenodwyd dirprwyon gan y rhai nad oeddent yn bresennol. Pan gafodd y penderfyniad (resolution) ei gyflwyno i'r cyfarfod, pleidleisiodd Cyfranddaliwr 1 o'i blaid, gan roi ei gydsyniad i’r contract gwasanaeth tymor penodedig o bum mlynedd arfaethedig. Pleidleisiodd Cyfranddaliwr 3 yn erbyn y penderfyniad.

A yw penderfyniad y cyfranddalwyr wedi’i basio trwy’r bleidlais gyfrannau?

A. Nac ydy, oherwydd ni chafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan o leiaf 50% o gyfranddalwyr y cwmni.

B. Nac ydy, oherwydd ni chafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan fwy na 50% o gyfranddalwyr y cwmni.

C. Ydy, oherwydd cafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan fwy na 50% o'r pleidleisiau a gafodd eu bwrw gan y cyfranddalwyr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn gymwys i bleidleisio.

D. Nac ydy, oherwydd ni chafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan fwy na 50% o gyfranddalwyr y cwmni a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn gymwys i bleidleisio.

E. Ydy, oherwydd cafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan o leiaf 50% o'r pleidleisiau a gafodd eu bwrw gan y cyfranddalwyr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn gymwys i bleidleisio.


C - Ydy, oherwydd cafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan fwy na 50% o'r pleidleisiau a gafodd eu bwrw gan y cyfranddalwyr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn gymwys i bleidleisio.

Atebodd 38% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE