SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 93

Mae gan gwmni cyfyngedig preifat dri chyfarwyddwr. Mae gan ddau o'r cyfarwyddwyr rôl weithredol ac maent hefyd yn gyfranddalwyr. Mae'r trydydd cyfarwyddwr yn gyfarwyddwr anweithredol ac mae wedi penderfynu'n ddiweddar ei bod hi am ymddiswyddo fel cyfarwyddwr.

Mae'r ddau gyfarwyddwr gweithredol wedi gofyn i'r trydydd cyfarwyddwr aros am o leiaf mis er mwyn rhoi amser iddynt ddod o hyd i olynydd. Mae'r trydydd cyfarwyddwr yn mynnu ei bod hi am adael ar unwaith ac mae’n cyflwyno rhybudd ysgrifenedig o'i hymddiswyddiad i'r cwmni, i ddod i rym ar unwaith.

Mae gan y cwmni erthyglau enghreifftiol heb eu diwygio fel a bennwyd yn Atodlen 1 i Reoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008 ('yr Erthyglau Enghreifftiol').

A all y trydydd cyfarwyddwr ymddiswyddo ar unwaith?

A. Gall, oherwydd gall cyfarwyddwr ymddiswyddo trwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r cwmni i ddod i rym ar unrhyw adeg.

B. Na all, oherwydd nid yw’r cyfranddalwyr wedi cymeradwyo ymddiswyddiad y trydydd cyfarwyddwr.

C. Na all, oherwydd bod angen penderfyniad (resolution) y bwrdd i dynnu cyfarwyddwr.

D. Gall, oherwydd nid oes yn rhaid i'r trydydd cyfarwyddwr drefnu i unrhyw gyfrannau yn y cwmni gael eu gwerthu.

E. Na all, oherwydd bod yr Erthyglau Enghreifftiol yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyfarwyddwr roi o leiaf mis o rybudd o ymddiswyddiad.


A - Gall, oherwydd gall cyfarwyddwr ymddiswyddo trwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r cwmni i ddod i rym ar unrhyw adeg.

Atebodd 43% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?