SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 66

Nid yw menyw yn gwneud unrhyw warediadau (disposals) at ddiben Treth Enillion Cyfalaf (CGT) yn ystod blwyddyn dreth 2025/26. Fe wnaeth hi golledion o £2,000 at ddiben CGT yn ystod y flwyddyn dreth 2024/25.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n rhoi’r disgrifiad gorau o sefyllfa CGT y fenyw?

A. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 yn ogystal â'i hesemptiad blynyddol ar gyfer 2025/26 am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i ddefnyddio'r rhain.

B. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i'w defnyddio a gall gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol ar gyfer 2025/26 tan 2026/27 yn unig.

C. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 tan 2026/27 yn unig a gall gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol ar gyfer 2025/26 ymlaen am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i'w ddefnyddio.

D. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 i'r flwyddyn dreth 2026/27 yn unig ac ni all gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol o gwbl yn 2025/26.

E. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i'w defnyddio ac ni all gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol ar gyfer 2025/26 o gwbl.


E - Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i'w defnyddio ac ni all gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol ar gyfer 2025/26 o gwbl. 

Atebodd 35% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE