SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 64

I ariannu hawliad o dorcontract, mae hawlydd yn ymrwymo i gytundeb ar sail iawndal (damages-based agreement) gyda chwmni o gyfreithwyr, ar gyfradd o 20%. Mae cyfreithwyr yr hawlydd yn talu alldaliadau (disbursements) o £5,000. Mae’r achos wedi cael ei setlo. Caiff gorchymyn setlo ei lunio lle mae’r diffynnydd yn cytuno i dalu swm o £150,000 yn iawndal i’r hawlydd ac mae’n cytuno i dalu costau cyfreithwyr yr hawlydd sef £10,000 ynghyd ag alldaliadau o £5,000. Mae’r diffynnydd yn talu’r symiau sy’n ddyledus i gyfreithwyr yr hawlydd.

Mae cyfreithwyr yr hawlydd yn cyfrifo’r swm y gallant ei ddidynnu (deduct) o dan y cytundeb ar sail iawndal. Bydd y cyfreithwyr yn trosglwyddo’r balans i’r hawlydd.

Pa swm y bydd yr hawlydd yn ei dderbyn gan ei gyfreithwyr?

A. £130,000

B. £120,000

C. £115,000

D. £148,000

E. £117,000


A - £130,000

Atebodd 33% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE