SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 58

Mae menyw yn berchen ar adeilad lle mae hi’n cynnal ei busnes o ddarparu cyfleusterau sba a thriniaethau harddwch i’r cyhoedd. Cafodd cwsmer ei anafu wrth ddefnyddio un o’r cawodydd yn y sba pan ddisgynnodd nifer o deils oddi ar wal y gawod ar ei thraed.

Roedd y gawod wedi cael ei hadnewyddu’n ddiweddar gan gontractwyr annibynnol sy’n arbenigo mewn gosod cyfleusterau sba masnachol. Roeddent wedi cael eu hargymell gan syrfëwr profiadol a fu’n arolygu a chymeradwyo’r gwaith gorffenedig i’r fenyw.

Disgynnodd y teils oddi ar y wal gan fod y contractwyr annibynnol wedi defnyddio glud teils annigonol wrth osod y teils ar y wal.

Pa un o’r canlynol sy’n rhoi’r disgrifiad gorau o atebolrwydd posibl y fenyw o dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957?

A. Nid yw hi’n atebol gan ei bod hi wedi defnyddio contractwyr cymwys a bod y gwaith wedi cael ei wirio wedi i’r teils gael eu gosod.

B. Nid yw hi’n atebol gan fod gan y contractwyr annibynnol reolaeth dros y safle pan gafodd y gwaith esgeulus ei wneud.

C. Mae hi’n atebol gan fod y cwsmer yn ymwelydd â’r adeilad.

D. Mae hi’n atebol gan fod y fenyw a’r contractwyr annibynnol ill dau yn feddianwyr.

E. Mae hi’n atebol gan fod y teils yn berygl ar y safle.


A - Nid yw hi’n atebol gan ei bod hi wedi defnyddio contractwyr cymwys a bod y gwaith wedi cael ei wirio wedi i’r teils gael eu gosod.

Atebodd 74% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE