SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 107

Mae cwmni'n ymrwymo i gontract gyda chyflenwr i brynu brics i'w dosbarthu i'r cwmni erbyn dyddiad penodol ('y Dyddiad Dosbarthu’). Mae telerau'r cwmni (a dderbynwyd gan y cyflenwr) yn nodi bod amseru’r dosbarthiad yn: "hanfodol" (of the essence) ('y Teler').

Bythefnos cyn y Dyddiad Dosbarthu, mae'r cyflenwr yn dweud wrth y cwmni na fydd yn gallu dosbarthu'r brics erbyn y Dyddiad Dosbarthu.

Mae'r cwmni yn ceisio cyngor cyfreithiol gan ei fod am derfynu'r contract ar unwaith cyn y Dyddiad Dosbarthu a phrynu'r brics o rywle arall. Mae’r math o frics a archebwyd dim ond ar gael o ffynhonnell arall am bris uwch. Felly mae'r cwmni hefyd yn dymuno hawlio iawndal (damages) gan y cyflenwr.

Pa un o'r datganiadau canlynol sy'n cynrychioli orau y cyngor y dylai'r cyfreithiwr ei roi i'r cwmni?

A. Gellir terfynu'r contract ar unwaith a hawlio iawndal gan y cyflenwr heb orfod aros i'r Dyddiad Dosbarthu fynd heibio, gan fod y Teler yn debygol o fod yn amod.

B. Ni ellir terfynu'r contract tan ar ôl i'r cyflenwr fethu â dosbarthu erbyn y Dyddiad Dosbarthu ond gellir hawlio iawndal ar unwaith, gan fod y Teler yn debygol o fod yn amod.

C. Ni ellir terfynu'r contract ac ni ellir hawlio iawndal tan ar ôl i'r cyflenwr fethu â dosbarthu erbyn y Dyddiad Dosbarthu, gan fod y Teler yn debygol o fod yn amod.

D. Gellir terfynu'r contract ar unwaith a hawlio iawndal gan y cyflenwr heb orfod aros i'r Dyddiad Dosbarthu fynd heibio, gan fod y Teler yn debygol o fod yn deler anenwol (innominate term).

E. Ni ellir terfynu'r contract tan ar ôl i'r cyflenwr fethu â dosbarthu erbyn y Dyddiad Dosbarthu ond gellir hawlio iawndal ar unwaith, gan fod y Teler yn debygol o fod yn deler anenwol (innominate term).


A - Gellir terfynu'r contract ar unwaith a hawlio iawndal gan y cyflenwr heb orfod aros i'r Dyddiad Dosbarthu fynd heibio, gan fod y Teler yn debygol o fod yn amod.

Atebodd 66% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE