SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 108

Mae dyn newydd gymhwyso yn y cwmni o gyfreithwyr lle bu'n gyfreithiwr prentis. Bydd yn parhau i gael ei gyflogi gan y cwmni, gan weithio yn yr adran cleientiaid preifat lle bydd ei waith fel cyfreithiwr yn cynnwys drafftio ewyllysiau a chael grantiau profiant. Bydd hefyd yn cynorthwyo yn yr adran trawsgludo preswyl (residential conveyancing) un diwrnod yr wythnos lle bydd yn cynorthwyo gyda gwaith cwblhau ac ôl-gwblhau, gan gynnwys gwneud ceisiadau i gofrestru'r ddogfennaeth trosglwyddo teitl gyda'r Gofrestrfa Tir.

Pa faes/feysydd gwaith y dyn a ystyrir i fod yn weithgaredd cyfreithiol neilltuedig (reserved legal activity)?

A. Drafftio ewyllysiau yn unig.

B. Drafftio ewyllysiau a chael grantiau profiant yn unig.

C. Drafftio ewyllysiau, cael grantiau profiant a gwneud ceisiadau ar gyfer cofrestru.

D. Cael grantiau profiant a gwneud ceisiadau ar gyfer cofrestru yn unig.

E. Gwneud ceisiadau ar gyfer cofrestru yn unig.


D - Cael grantiau profiant a gwneud ceisiadau ar gyfer cofrestru yn unig.

Atebodd 49% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE