SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 105

Sawl blwyddyn yn ôl, cafodd cyfrannau cyffredin eu cyhoeddi (issued) gan gwmni cyfyngedig preifat i bum cyfranddaliwr am werth enwol (nominal value) wrth ymgorffori’r cwmni. Mae pedwar o'r cyfranddalwyr hynny hefyd yn gyfarwyddwyr yn y cwmni.

Dim ond 10% o'r cyfrannau cyffredin sydd gan y pumed cyfranddaliwr, sy'n ddyn. Nid yw e erioed wedi bod yn gyfarwyddwr ac nid yw’n ymwneud â rheoli'r cwmni.

Nid oes unrhyw newidiadau wedi bod i gyfalaf cyfrannau'r cwmni ers ei ymgorffori.

Mae'r cwmni bob amser wedi gwneud elw ac wedi dosbarthu cyfran fawr o'r elw hwnnw'n flynyddol i'r cyfranddalwyr.

Eleni, mae'r cyfarwyddwyr wedi penderfynu rhoi codiad cyflog sylweddol iddyn nhw eu hunain, ymhell dros gyfradd y farchnad. O ganlyniad, prin oedd yr elw a wnaeth y cwmni ac nid yw'r cyfarwyddwyr wedi datgan unrhyw ddifidendau eleni.

Mae'r dyn yn ymgynghori â chyfreithiwr am beth fydd ei rwymedi tebygol os bydd yn llwyddiannus mewn gweithrediad am ragfarn annheg (action for unfair prejudice) o dan Ddeddf Cwmnïau 2006.

Os bydd y dyn yn llwyddiannus mewn achos rhagfarn annheg, pa un o'r canlynol yw'r rhwymedi mwyaf tebygol y bydd y llys yn ei orchymyn?

A. Bod y cwmni'n prynu cyfrannau'r dyn yn ôl am werth teg.

B. Bod y cwmni'n prynu cyfrannau'r dyn yn ôl am werth enwol.

C. Bod y dyn yn cael ei benodi i'r bwrdd ar unwaith a bod dim modd i’r cyfarwyddwyr gyfranddalwyr eraill ei dynnu o'i swydd.

D. Bod y cwmni yn cael ei ddirwyn i ben.

E. Bod unrhyw godiadau cyflog yn y dyfodol ar gyfer cyfarwyddwyr yn cyd-fynd â chyfraddau'r farchnad.


A - Bod y cwmni'n prynu cyfrannau'r dyn yn ôl am werth teg.

Atebodd 61% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE