SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 106

Mae modurwr 17 oed yn dioddef toriad coes o ganlyniad i ddamwain traffig ffordd wrth yrru ei gar. Caiff y ddamwain ei hachosi gan yrru esgeulus gyrrwr y cerbyd arall ('y Fenyw').

Ac yntau’n 22 oed, mae'r modurwr yn ceisio cyngor cyfreithiol am y tro cyntaf gan gyfreithiwr ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno hawliad yn erbyn y Fenyw am yr anafiadau a ddioddefodd yn y ddamwain.

Pa un o'r canlynol sy'n cynrychioli'r cyngor y dylai'r cyfreithiwr ei roi i'r modurwr?

A. Gellir dwyn hawliad yn erbyn y Fenyw oherwydd y cyfnod cyfyngu yw chwe blynedd o ddyddiad y ddamwain.

B. Ni ellir dwyn hawliad yn erbyn y Fenyw oherwydd y cyfnod cyfyngu yw tair blynedd o ddyddiad y ddamwain.

C. Gellir dwyn hawliad yn erbyn y Fenyw oherwydd y cyfnod cyfyngu yw tair blynedd o'r dyddiad y mae'r modurwr yn ceisio cyngor cyfreithiol am y tro cyntaf.

D. Gellir dwyn hawliad yn erbyn y Fenyw oherwydd y cyfnod cyfyngu yw chwe blynedd o ddyddiad pen-blwydd y modurwr yn 18 oed.

E. Ni ellir dwyn hawliad yn erbyn y Fenyw oherwydd y cyfnod cyfyngu yw tair blynedd o ddyddiad pen-blwydd y modurwr yn 18 oed.


E - Ni ellir dwyn hawliad yn erbyn y Fenyw oherwydd y cyfnod cyfyngu yw tair blynedd o ddyddiad pen-blwydd y modurwr yn 18 oed.

Atebodd 70% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE