SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 102

Mae menyw yn berchen ar fusnes proffidiol fel unig fasnachwr. Mae hi'n rhedeg ei busnes o'r cartref teuluol sy'n eiddo i'w gŵr yn ei enw ef yn unig. Unig ffynhonnell incwm y teulu yw busnes y fenyw. Nid oes gan y gŵr swydd â thâl, gan ei fod yn ofalwr llawnamser i bedwar plentyn y pâr.

Mae angen i’r fenyw gael benthyg £10,000 i ehangu ei busnes. Mae ffrind i’r teulu yn cytuno i roi benthyg yr arian iddi, ar yr amod bod gŵr y wraig yn cytuno i warantu’r benthyciad.

Mae cyfarfod yn cael ei drefnu rhwng y fenyw, y ffrind i’r teulu a'r gŵr. Cyn cynnal y cyfarfod, mae'r fenyw yn pwysleisio i'w gŵr bwysigrwydd cael y benthyciad i'r teulu. Mae gwraig y ffrind i’r teulu a’i fab sy’n oedolyn hefyd yn mynd i'r cyfarfod ac yn clywed y gŵr yn cytuno ar lafar i warantu ad-daliad y benthyciad yn bersonol. Yn dilyn y cyfarfod, mae’r ffrind i’r teulu yn rhoi’r benthyciad o £10,000 i’r fenyw.

Nid yw'r fenyw yn gallu ad-dalu'r benthyciad mwyach a hoffa'r ffrind i’r teulu orfodi'r warant yn erbyn y gŵr.

Pa gyngor dylai'r ffrind i’r teulu ei dderbyn mewn perthynas â'r warant?

A. Nid yw'n rhwymol oherwydd bod yn rhaid cael tystiolaeth ysgrifenedig o’r warant wedi’i llofnodi gan y gŵr.

B. Nid yw'n rhwymol oherwydd bod yn rhaid cael tystiolaeth ysgrifenedig o’r warant a rhaid i’r gŵr ei gweithredu fel gweithred (deed).

C. Mae’n rhwymol oherwydd cafodd ei rhoi’n rhydd gan y gŵr ym mhresenoldeb dau dyst.

D. Mae’n rhwymol oherwydd bod rhoi’r benthyciad yn amodol ar roi’r warant.

E. Nid yw'n rhwymol oherwydd bod rhagdybiaeth anwrthbrofadwy (irrebuttable presumption) bod y gŵr wedi bod yn destun dylanwad gormodol (undue influence) gan y fenyw.


A - Nid yw'n rhwymol oherwydd bod yn rhaid cael tystiolaeth ysgrifenedig o’r warant wedi’i llofnodi gan y gŵr.

Atebodd 51% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE