SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 91

Mae cyfreithiwr wedi'i gyflogi gan gwmni o gyfreithwyr. Nid yw'r cyfreithiwr na’i chwmni wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i hyrwyddo cynnyrch ariannol yn unol â Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 a deddfwriaeth eilaidd gysylltiedig (FSMA).

Mae'r cyfreithiwr yn cymryd rhan mewn hanner marathon. Ar ddiwedd y rhediad mae'r cyfreithiwr yn siarad â rhedwr arall sy'n edmygu sbectol haul y cyfreithiwr. Mae'r cyfreithiwr yn esbonio bod y sbectol haul wedi'u gweithgynhyrchu gan gwmni cyfyngedig preifat y mae hi wedi buddsoddi peth o'i harian ynddo yn ddiweddar. Mae hi'n esbonio bod y cwmni bellach yn ehangu ei weithrediadau ac yn chwilio am fuddsoddiad pellach.

Mae'r rhedwr yn datgan ei fod e’n ystyried buddsoddi mewn cyfrannau mewn cwmni sy'n ymwneud â'r diwydiant ffitrwydd, ac y byddai ganddo ddiddordeb mewn dysgu mwy am y cwmni gyda golwg ar fuddsoddi ynddo.

Mae'r cyfreithiwr yn rhoi manylion y cwmni i'r rhedwr ac yn argymell ei fod e’n ystyried cyfrannau yn y cwmni hwnnw fel buddsoddiad posibl. Nid yw'r rhedwr yn gwybod mai cyfreithiwr sy'n ymarfer yw hi.

A yw'r cyfreithiwr wedi cymryd rhan mewn hyrwyddo ariannol anghyfreithlon sy'n torri FSMA?

A. Nac ydy, oherwydd nid oedd y cyfreithiwr yn cyfathrebu wrth gynnal busnes.

B. Ydy, oherwydd bod cyfathrebu'r cyfreithiwr yn gyfystyr â chymhelliant i gymryd rhan mewn gweithgaredd buddsoddi.

C. Nac ydy, oherwydd bod cyfathrebu'r cyfreithiwr wedi’i eithrio gan ei fod yn ymwneud â phrynu cyfrannau mewn corff corfforaethol.

D. Nac ydy, oherwydd bod cyfathrebu'r cyfreithiwr wedi'i eithrio fel hyrwyddo a gafodd ei dowtio nad yw mewn amser real (solicited non-real time promotion).

E. Ydy, oherwydd nid yw cyfathrebu'r cyfreithiwr yn rhan o unrhyw wasanaethau proffesiynol eraill a ddarperir i'r rhedwr.


A - Nac ydy, oherwydd nid oedd y cyfreithiwr yn cyfathrebu wrth gynnal busnes.

Atebodd 72% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?