SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 88

Mae prynwr yn ymweld â safle gwerthwr carafanau ac yn gweld carafán glasurol. Drannoeth mae'r prynwr yn anfon e-bost at y gwerthwr yn cynnig prynu'r garafán glasurol am £12,000, ac mae'r gwerthwr yn derbyn cynnig y prynwr trwy e-bost ychydig funudau’n ddiweddarach. Nid yw'r prynwr wedi talu am y garafán glasurol nac wedi ei chasglu eto.

Nid yw'r naill barti na'r llall yn ymwybodol bod y garafán glasurol wedi'i dinistrio mewn llifogydd y noson flaenorol ar ôl storm arw.

A oes contract gorfodadwy rhwng y gwerthwr a'r prynwr?

A. Oes, oherwydd bod y rheol caveat emptor yn berthnasol i'r contract.

B. Nac oes, oherwydd er bod cytundeb rhwng y gwerthwr a'r prynwr, nid yw'r prynwr wedi darparu unrhyw gydnabyddiaeth (consideration).

C. Nac oes, oherwydd bod y contract wedi’i rwystro (has been frustrated) gan nad yw'r garafán glasurol yn bodoli mwyach.

D. Oes, oherwydd bod cytundeb rhwng y gwerthwr a'r prynwr ac mae'r prynwr wedi darparu cydnabyddiaeth (consideration).

E. Nac oes, oherwydd bod y contract yn ddi-rym (void) oherwydd camgymeriad cyffredin gan nad yw'r garafán glasurol yn bodoli mwyach.


E - Nac oes, oherwydd bod y contract yn ddi-rym (void) oherwydd camgymeriad cyffredin gan nad yw'r garafán glasurol yn bodoli mwyach.

Atebodd 54% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?