SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 86

Mae cwmni cyfyngedig preifat yn bwriadu dyrannu rhywfaint o gyfrannau cyffredin i ddyn am daliad mewn arian parod. Dim ond cyfrannau cyffredin sydd wedi’u cyhoeddi (in issue) ac mae gan y cwmni erthyglau enghreifftiol heb eu diwygio fel a bennwyd yn Atodlen 1 i Reoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008.

Unwaith y bydd y dyraniad wedi'i gwblhau, bydd gan y dyn 30% o gyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd gan y cwmni. Nid yw’r dyn yn gyfarwyddwr, ac ni fydd yn dod yn gyfarwyddwr y cwmni chwaith.

Pa un o'r buddion canlynol fydd yn cael ei roi i'r dyn drwy ddyrannu cyfrannau iddo?

A. Y pŵer i benodi cyfarwyddwyr ychwanegol.

B. Hawl gontractiol i ddifidendau.

C. Hawl cynnig cyntaf (first refusal) os bydd cyfranddaliwr arall yn dymuno gwerthu ei gyfrannau.

D. Y pŵer i atal y cwmni rhag newid ei enw.

E. Ad-daliad gwarantedig llawn o'r holl symiau a dalwyd ar y cyfrannau os bydd y cwmni'n cael ei ddirwyn i ben.


D - Y pŵer i atal y cwmni rhag newid ei enw.

Atebodd 51% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?