SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 55

Mae cwmni recriwtio yn dymuno prynu tegell bach gan gwmni manwerthu (‘y Manwerthwr’) at ddefnydd ei weithwyr.

Pan fydd rheolwr swyddfa’r cwmni recriwtio yn ymweld â safle’r Manwerthwr am y tro cyntaf, nid yw’r tegell mewn stoc. Felly, mae’r Manwerthwr yn archebu un oddi wrth y cyfanwerthwyr (wholesalers) ac mae rheolwr y swyddfa yn mynd yn ôl at y Manwerthwr yn ddiweddarach i’w gasglu.

Ar ôl cael ei ddefnyddio ddwywaith mae’r tegell yn stopio gweithio.

Pa hawliad sydd gan y cwmni recriwtio?

A. Nid yw’r tegell o ansawdd boddhaol o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

B. Nid yw’r tegell yn addas at ddiben penodol o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

C. Nid yw’r tegell o ansawdd boddhaol o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979.

D. Nid yw’r tegell yn addas at ddiben penodol o dan Ddeddf Cyflenwi Nwyddau (Telerau Ymhlyg) 1973.

E. Nid yw’r tegell o ansawdd boddhaol o dan Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982.


C - Nid yw’r tegell o ansawdd boddhaol o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979.

Atebodd 60% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?