SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 93

Mae cyfreithiwr yn gweithredu wrth werthu tŷ. Mae'r gwerthwr yn fenyw sydd wrthi'n symud i mewn i gartref gofal. Mae'r tŷ yn cael ei werthu i godi arian ar gyfer ffioedd y cartref gofal.

Mae contractau wedi'u cyfnewid a bydd cwblhad ymhen pum wythnos.

Yn dilyn y cyfnewid, mae'r cyfreithiwr yn derbyn galwad ffôn gan fab y gwerthwr i ddweud bod ei fam wedi marw. Mae'r mab am wybod sut y bydd marwolaeth ei fam yn effeithio ar y gwerthiant. Nawr nad oes rhaid gwerthu'r tŷ er mwyn codi arian i dalu ffioedd y cartref gofal, byddai'n well gan y mab gadw'r tŷ. Fe yw unig ysgutor ac unig fuddiolwr ystad ei fam ac mae e wedi cymryd y camau angenrheidiol i gael grant profiant.

Beth yw'r sefyllfa mewn perthynas â'r gwerthiant?

A. Mae'r mab, fel unig ysgutor ystad ei fam, wedi'i rwymo'n gyfreithiol i werthu'r tŷ o dan y contract.

B. Golyga marwolaeth y fam fod y contract bellach yn ddi-rym (void) yn gyfreithiol ac o ran ecwiti.

C. Mae gan y mab, fel unig fuddiolwr ystad ei fam, hawl cynnig cyntaf (first refusal) i'r tŷ gael ei gydsynio (assented) iddo ef o'r ystad.

D. Mae gan y mab, fel unig ysgutor ystad ei fam, yr opsiwn i derfynu'r contract drwy rybudd ysgrifenedig i'r prynwr.

E. Gall y mab, fel unig ysgutor ac unig fuddiolwr ystad ei fam, wneud cais i'r llys i derfynu'r contract.


A - Mae'r mab, fel unig ysgutor ystad ei fam, wedi'i rwymo'n gyfreithiol i werthu'r tŷ o dan y contract.

Atebodd 59% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE