SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 92

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran ysgutorion. Mae'r cyfreithiwr yn trefnu prisiad proffesiynol o gynnwys cartref yr unigolyn sydd wedi marw gydag arwerthwr lleol profiadol. Wrth i'r arwerthwr gwblhau ei waith, mae'r cyfreithiwr yn achub ar y cyfle i ofyn am gyngor am eitemau mae hi'n bwriadu eu gwerthu'n bersonol. Mae'r arwerthwr yn dweud wrth y cyfreithiwr os bydd yr arwerthwr yn gwerthu eitemau o'r ystad, bydd e'n ad-dalu cyfran o'r comisiwn a dalwyd ar unrhyw eitem mae e'n ei werthu i'r cyfreithiwr yn bersonol.

Mae'r ysgutorion yn fodlon gyda phrisiad yr arwerthwr ac yn gofyn i'r cyfreithiwr drefnu gwerthiant rhai o eitemau'r unigolyn sydd wedi marw ar delerau arferol yr arwerthwr.

Mae'r gwerthiant, sydd hefyd yn cynnwys eitemau sy'n eiddo personol y cyfreithiwr, yn mynd yn ei flaen. Mae'r arwerthwr yn ad-dalu cyfran o'r comisiwn a dalwyd gan y cyfreithiwr ar ei heitemau ei hun. Mae'r ad-daliad yn cynrychioli tua 5% o'r comisiwn a dalwyd gan yr ystad. Nid yw'r cyfreithiwr yn hysbysu'r ysgutorion am yr ad-daliad oherwydd ei fod yn ymwneud ag eitemau y mae hi'n berchen arnynt yn bersonol.

A all y cyfreithiwr gadw'r ad-daliad?

A. Gall, oherwydd cafodd ei dderbyn wrth werthu eitemau mae'r cyfreithiwr yn berchen arnynt yn bersonol.

B. Gall, oherwydd nid yw ei dderbyn gan y cyfreithiwr yn achosi unrhyw anfantais i'r ystad.

C. Gall, oherwydd nid yw'n sylweddol mewn perthynas â swm y comisiwn mae'r ystad wedi'i dalu ar eitemau'r ystad.

D. Na all, oherwydd ni ddylai hi fod wedi caniatáu i'w heitemau personol hi fod yn yr un arwerthiant ag eitemau'r ystad.

E. Na all, oherwydd cafodd ei gymhwyso (applied) o ganlyniad i'w chyfarwyddiadau hi i drefnu gwerthiant eitemau'r ystad.


E - Na all, oherwydd cafodd ei gymhwyso (applied) o ganlyniad i'w chyfarwyddiadau hi i drefnu gwerthiant eitemau'r ystad.

Atebodd 68% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE