SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 71

Mae menyw yn berchen ar dŷ rhydd-ddaliadol a digofrestredig gyda gardd fawr. Am gydnabyddiaeth o £10,000, mae hi'n rhoi hawl i'w chymydog ddefnyddio llwybr dros ei gardd am byth (in perpetuity).

Mae'r fenyw a'r cymydog yn ymrwymo i weithred (deed) a ddrafftiwyd gan gyfreithiwr y fenyw sy'n cofnodi'r holl delerau y cytunwyd arnynt.

A oes rhaid cofrestru'r hawddfraint (easement) hon?

A. Oes, oherwydd ei bod yn cael ei rhoi wedi 1925, rhaid iddi gael ei chofrestru fel pridiant tir (land charge) D(iii).

B. Oes, oherwydd ei bod yn sbarduno cofrestriad cyntaf o'r rhydd-ddaliad a rhaid ei diogelu gan hysbysiad ar y Gofrestr Arwystlon (Charges Register) o'r teitl rhydd-ddaliad sydd newydd gofrestru.

C. Nac oes, oherwydd ei bod yn warediad cofrestradwy (registrable disposition) ond mae'n ddarostyngedig i’r athrawiaeth hysbysu (doctrine of notice).

D. Nac oes, oherwydd ei bod yn rhwymo'r byd (binds the world).

E. Nac oes, oherwydd ei bod yn sbarduno cofrestriad cyntaf o'r rhydd-ddaliad ac mae wedi'i diogelu fel buddiant sy'n trechu (overriding interest).


D - Nac oes, oherwydd ei bod yn rhwymo'r byd (binds the world).

Atebodd 22% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE