SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 13

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran cleient sy’n unig berchennog eiddo rhydd-ddaliadol (freehold).

Nid yw’r eiddo’n adeilad rhestredig (listed) ac mae’n wag, ond roedd yn cael ei ddefnyddio fel swyddfa tan bum mlynedd yn ôl.

Mae’r cleient yn bwriadu cynnal gwaith anadeileddol (non-structural) mewnol i’r eiddo fel y gall hi osod yr eiddo fel clwb nos (sef defnydd sui generis at ddiben y gyfraith gynllunio).

Mae hi wedi gofyn am gyngor gan y cyfreithiwr ynghylch a yw ei chynlluniau’n cael eu hystyried yn ‘ddatblygiad’ ac felly a fydd angen iddi gael caniatâd cynllunio.

A fydd angen caniatâd cynllunio ar y cleient ar gyfer ei chynlluniau ar gyfer yr eiddo?

A. Bydd. Er na fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith mewnol, bydd angen caniatâd cynllunio er mwyn newid defnydd yr eiddo.

B. Na fydd. Nid yw’r gwaith mewnol na newid defnydd yr eiddo’n cael eu hystyried yn ddatblygiad oherwydd rhoddwyd gorau i’r defnydd blaenorol dros bedair blynedd yn ôl.

C. Na fydd. Nid yw’r gwaith mewnol na newid defnydd yr eiddo’n cael eu hystyried yn ddatblygiad gan mai newid i ddefnydd sui generis ydyw.

D. Bydd. Bydd angen caniatâd cynllunio arni ar gyfer y gwaith mewnol ac i newid defnydd yr eiddo gan eu bod yn ddatblygiadau na chânt eu caniatâu.

E. Na fydd. Nid yw’r gwaith mewnol na newid defnydd yr eiddo’n cael eu hystyried yn ddatblygiad gan nad yw’n newid sylweddol (material change).


A - Bydd. Er na fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith mewnol, bydd angen caniatâd cynllunio er mwyn newid defnydd yr eiddo.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE