SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 108

Mae cyfreithiwr yn gweithredu wrth weinyddu ystad. Mae un o'r buddiolwyr yn gymwys i dderbyn cymynrodd (legacy) o £10,000 o dan delerau'r ewyllys. Hoffai'r buddiolwr ddefnyddio'r gymynrodd i dalu ffioedd cwrs astudio sy'n dechrau ymhen mis. Mae'r cyfreithiwr wedi dweud y caiff y gymynrodd ei thalu ymhen chwe mis.

Mae modryb y buddiolwr yn cynnig rhoi benthyg £10,000 i'r buddiolwr nawr ond mae am gael ei had-dalu o gymynrodd y buddiolwr. Mae'r fodryb y gofyn i'r cyfreithiwr gytuno i anfon yr arian ar gyfer cymynrodd y buddiolwr yn uniongyrchol ati hi. Mae'r buddiolwr yn cytuno i'r trefniant ac ar ei gais ef, mae'r cyfreithiwr yn ysgrifennu at y fodryb yn cadarnhau y bydd y cyfreithiwr yn talu £10,000 iddi ymhen chwe mis.

Ddeufis yn ddiweddarach, deir o hyd i godisil i'r ewyllys. Nid oedd y cyfreithiwr wedi ystyried y codisil pan chwiliodd ef ymysg y papurau yn ei gwmni a oedd yn cael eu dal ar ran y person marw. Mae'r codisil yn diddymu (revokes) cymynrodd y buddiolwr ac nid oes gan y buddioliwr unrhyw hawl i unrhyw arian o'r ystad. Mae'r fodryb yn mynnu bod yn rhaid i'r cyfreithiwr dalu £10,000 iddi ymhen pedwar mis. Nid yw'r fodryb yn fuddiolwr o dan yr ewyllys na'r codisil.

A yw'r cyfreithiwr wedi'i rwymo i dalu £10,000 i'r fodryb?

A. Nac ydy, oherwydd cytunodd e i dalu'r arian yn ddidwyll (in good faith) ond mae'r amgylchiadau wedi newid mewn ffordd na allai fod wedi'i rhagweld.

B. Ydy, oherwydd iddo ysgrifennu i'r fodryb yn cytuno i dalu'r arian iddi.

C. Nac ydy, oherwydd bod ei gytundeb e'n gyfyngedig yn ymhlyg (implicitly limited) i raddau unrhyw gronfeydd a oedd ar gael i'r buddiolwr.

D. Nac ydy, oherwydd rhaid dosbarthu arian yn yr ystad i'r buddiolwyr sydd â hawl iddo o dan yr ewyllys a'r codisil yn unig.

E. Ydy, oherwydd fe oedd yn gwneud camgymeriad pan nid ystyriodd fodolaeth y codisil.


B - Ydy, oherwydd iddo ysgrifennu i'r fodryb yn cytuno i dalu'r arian iddi.

Atebodd 45% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE