SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 106

Caiff dyn ei arestio am fwrgleriaeth. Mae'n gofyn i'w gyfreithiwr arferol ei gynrychioli, ond nid yw'r cyfreithiwr ar gael. Mae'r dyn yn cytuno i gyfweliad dan rybudd ('y Cyfweliad') heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

Mae'r dyn yn cyfaddef i'r fwrgleriaeth yn ystod y Cyfweliad a chaiff ei gyhuddo o'r fwrgleriaeth. Wedi hynny mae'n cyfarwyddo ei gyfreithiwr arferol ac yn pledio'n ddieuog yn y llys. Mae'r dyn yn dweud wrth ei gyfreithiwr y gwnaeth ef gyfaddef i'r fwrgleriaeth yn ystod y Cyfweliad dim ond oherwydd i'r swyddog cyfweld ddweud wrtho fod y dystiolaeth yn ei erbyn yn gryfach nag yw hi. Dywedodd y swyddog cyfweld hefyd ei bod hi'n fwy tebygol y byddai swyddog y ddalfa yn rhoi mechnïaeth iddo pe bai'n cyfaddef i'r drosedd.

Mae'r cyfreithiwr yn ystyried a ellir gwneud cais i eithrio cyfaddefiad y dyn yn y Cyfweliad o'r dystiolaeth yn ei dreial. Mae'r cyfreithiwr yn ystyried gwneud cais o dan a.76 o PACE 1984 ar sail y ffaith y cafwyd y cyfaddefiad o ganlyniad i ddatganiadau'r swyddog cyfweld a oedd yn debygol, dan yr amgylchiadau fel yr oeddent ar y pryd, i wneud unrhyw gyfaddefiad a wnaed gan y dyn yn annibynadwy.

Os caiff y cais ei wneud, pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau pwy, os unrhyw un, a fyddai'n ysgwyddo'r baich prawf (burden of proof) ac i ba safon?

A. Rhaid i'r erlyniad brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol na chafwyd y cyfaddefiad fel a honnir er mwyn i'r cyfaddefiad gael ei dderbyn (admitted) fel tystiolaeth.

B. Rhaid i'r erlyniad brofi ar bwysau tebygolrwydd na chafwyd y cyfaddefiad fel a honnir er mwyn i'r cyfaddefiad gael ei dderbyn (admitted) fel tystiolaeth.

C. Rhaid i'r amddiffyniad brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol y cafwyd y cyfaddefiad fel a honnir er mwyn i'r cyfaddefiad gael ei eithrio o'r dystiolaeth.

D. Rhaid i'r amddiffyniad brofi ar bwysau tebygolrwydd y cafwyd y cyfaddefiad fel a honnir er mwyn i'r cyfaddefiad gael ei eithrio o'r dystiolaeth.

E. Nid yw unrhyw un yn ysgwyddo'r baich prawf. Rhaid i'r amddiffyniad dim ond codi y cafwyd y cyfaddefiad fel a honnir a bydd gan y llys ddisgresiwn i eithrio'r cyfaddefiad o'r dystiolaeth ai peidio.


A - Rhaid i'r erlyniad brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol na chafwyd y cyfaddefiad fel a honnir er mwyn i'r cyfaddefiad gael ei dderbyn (admitted) fel tystiolaeth.

Atebodd 44% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE