SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 105

Cynigwyd cyfle i gyfreithiwr ymuno â Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (LLP) aml-ddisgyblaethol, nid-er-elw. Nid yw'r LLP yn gorff a awdurdodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA). Bydd y cyfreithiwr yn dod yn aelod o'r LLP a hi fydd y cyfreithiwr cyntaf i ymuno ers i'r LLP ddechrau sawl blwyddyn yn ôl. Mae'r LLP yn cynnig gwasanaethau ariannol ac eraill i deuluoedd plant ag anableddau.

Yn ei rôl hi, bydd y cyfreithiwr yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddarpariaeth briodol i blant ag anableddau yn ewyllysiau eu rhieni. Bydd hi hefyd yn drafftio dogfennaeth ar ran rhieni ond ni fydd yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau cyfreithiol neilltuedig (reserved legal activities).

Mae'r cyfreithiwr yn gofyn am newid enw'r LLP i gynnwys y gair 'cyfreithwyr' cyn iddi ddod yn aelod. Nid yw'r LLP yn awyddus i newid yr enw am y bydd y gwaith cyfreithiol yn llai na chwarter o'i refeniw ac mae'n gofyn a oes gofyniad o dan God Ymddygiad yr SRA ar gyfer Cyfreithwyr, Cyfreithwyr Cofrestredig Ewrop (RELs), Cyfreithwyr Cofrestredig Tramor (RFLs) a Chyfreithwyr Cofrestredig y Swistir (RSLs) ('y Cod').

A all y cyfreithiwr fynnu ar newid enw'r LLP ar sail y ffaith ei bod hi'n ofyniad o dan y Cod?

A. Na all, oherwydd nid yw'r LLP yn gorff a awdurdodir gan yr SRA.

B. Na all, oherwydd ei fod yn fusnes sy'n bodoli sy'n cynnig gwasanaethau aml-ddisgyblaethol.

C. Gall, oherwydd y bydd y cyfreithiwr yn aelod o'r LLP.

D. Gall, oherwydd bod hyn yn cyfathrebu i gleientiaid yr LLP fod gwasanaethau cyfreithiwr ar gael.

E. Na all, oherwydd ni fydd y cyfreithiwr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfreithiol neilltuedig yn ei rôl hi.


A - Na all, oherwydd nid yw'r LLP yn gorff a awdurdodir gan yr SRA.

Atebodd 52% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE