SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 104

Ar adeg ei farwolaeth, roedd gan ddyn bortffolio helaeth o gyfrannau mewn cwmnïau preifat a chyhoeddus. Mae'r portffolio wedi'i reoli gan stocbrocer. Mae ewyllys y dyn yn penodi ysgutorion ac ymddiriedolwyr ac yn cynnwys y ddarpariaeth ganlynol:

"Rhoddaf fy holl gyfrannau yn y pum cwmni sy'n perfformio orau rwyf yn dal cyfrannau ynddynt i'm hymddiriedolwyr ar ymddiriedolaeth i’r hynny o'm hwyrion sy'n fy ngoroesi ac yn cyrraedd 18 oed mewn cyfrannau cyfartal."

Caiff gweddill ystad y dyn ei rhannu rhwng ei blant.

Mae'r ymddiriedolwyr am wybod pa gyfrannau, os o gwbl, sy'n eiddo'r ymddiriedolaeth yn unol â'r cymal uchod.

A oes ymddiriedolaeth ddilys o gyfrannau wedi'i chreu gan y cymal yn yr ewyllys?

A. Nac oes, oherwydd nid yw'r ewyllys yn gwahaniaethu rhwng y cyfrannau cyhoeddus a’r rhai preifat.

B. Oes, oherwydd bod yr ymddiriedolwyr yn gallu defnyddio eu barn (judgement) i ddewis y cyfrannau i'w rhoi ar ymddiriedolaeth.

C. Oes, oherwydd bod y stocbrocer yn gallu penderfynu pa gwmnïau yw'r rhai sy'n perfformio orau.

D. Nac oes, oherwydd bod y meini prawf sy'n sail disgrifiad y cyfrannau yn amwys (ambiguous).

E. Oes, oherwydd gall yr ymddiriedolwyr, yr wyrion a'r plant gytuno ar y cyfrannau i'w neilltuo i'r ymddiriedolaeth.


D - Nac oes, oherwydd bod y meini prawf sy'n sail disgrifiad y cyfrannau yn amwys (ambiguous).

Atebodd 62% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE