SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 92

Mae cyfreithiwr mewn cwmni yn credu ei fod wedi dod o hyd i gyfle i gynhyrchu gwaith newydd yn seiliedig ar ei brofiad personol o broblemau gyda'i ddarparwr rhyngrwyd. Roedd y cyfreithiwr wedi llofnodi contract gyda darparwr rhyngrwyd ('y Darparwr') am gysylltiad rhyngrwyd ffibr-optig cyflym iawn i'w ddarparu i'w gartref. Torrodd y Darparwr y contract trwy beidio â chyflawni'r contract erbyn y dyddiad y cytunwyd arno. Llwyddodd y cyfreithiwr i negodi digollediad (compensation) sylweddol gan y Darparwr.

Mae'r cyfreithiwr yn gwybod bod rhai o'i gymdogion sy'n byw ar yr un stryd hefyd wedi llofnodi contract gyda'r Darparwr a’i bod hi’n bosibl eu bod wedi profi problemau tebyg. Mae e'n amau y gallai fod cymdogion eraill o'r fath sydd hefyd wedi llofnodi contractau gyda'r Darparwr nad yw’r dyn yn gwybod amdanynt. Mae'r cymdogion yn cynnwys cyn-gleient a chleient presennol y cyfreithiwr.

Mae'r cyfreithiwr yn bwriadu ysgrifennu at bob un o'i gymdogion yn rhoi gwybod iddynt am eu hawliad cyfreithiol posibl yn erbyn y Darparwr ac yn cynnig ei wasanaethau ef iddynt. Bydd adran ar wahân o fewn cwmni'r cyfreithiwr yn ystyried darpariaethau deddfwriaeth diogelu data, ond mae'r cyfreithiwr yn ystyried pwy y gall gysylltu â nhw heb dorri ei ddyletswydd o dan God Ymddygiad yr SRA ar gyfer Cyfreithwyr, Cyfreithwyr Cofrestredig Ewrop (RELs), Cyfreithwyr Cofrestredig Tramor (RFLs) a Chyfreithwyr Cofrestredig y Swistir (RSLs) ('y Cod').

Yn ôl y Cod, pwy (os oes unrhyw un) y gall y cyfreithiwr gysylltu â nhw trwy lythyr?

A. Pob un o'i gymdogion.

B. Dim un o'i gymdogion.

C. Ei gymdogion y mae'n gwybod bod ganddynt gontract gyda'r Darparwr yn unig.

D. Ei gleientiaid presennol a’i chyn-gleientiaid a'i gymdogion y mae'n gwybod bod ganddynt gontract gyda'r Darparwr yn unig.

E. Ei gymdogion sy'n gleient presennol a chyn-gleient iddo’n unig.


E - Ei gymdogion sy'n gleient presennol a chyn-gleient iddo’n unig.

Atebodd 66% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?