SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 89

Crëwyd corff anllywodraethol (non-governmental organisation - NGO) o dan statud sydd â chyfrifoldebau i ddarparu gweithgareddau ar ôl ysgol am ddim i blant o deuluoedd rhieni sengl sy'n gweithio yn y dinasoedd mwyaf amddifad yn economaidd (most economically deprived) yn y DU.

Mae'r corff yn dibynnu ar y llywodraeth ganolog am y rhan fwyaf o'i gyllid. Mae toriadau gwariant yng nghyllideb y llynedd wedi gorfodi'r NGO i leihau'n sylweddol gwmpas ei weithgareddau ar ôl ysgol. Saith mis yn ôl, ysgrifennodd yr NGO at rieni sawl plentyn gan esbonio na fyddai'n gallu darparu unrhyw ofal ar ôl ysgol i'w plant mwyach. Nid esboniodd ei benderfyniad heblaw am ddweud bod anghenion rhai teuluoedd yn fwy nag eraill.

Mae'r rhieni newydd wneud cais i'r Uchel Lys am ganiatâd i barhau i adolygiad barnwrol llawn o benderfyniad yr NGO ond mae'r Uchel Lys wedi gwrthod y cais.

Pa un o'r rhesymau canlynol fyddai'n cyfiawnhau'r gwrthodiad hwn orau?

A. Mae gan yr NGO gyfrifoldeb dros ddyrannu adnoddau cyfyngedig ac ni ellir adolygu ei benderfyniadau yn farnwrol.

B. Dylai'r rhieni siwio’r NGO am dorcontract yn lle hyn.

C. Nid yw'r NGO yn rhan o'r weithrediaeth (executive) ac felly nid yw'n gorff cyhoeddus.

D. Nid yw'r rhieni wedi gwneud cais cyn gynted â phosibl neu o fewn tri mis o'r penderfyniad.

E. Nid oes gan y rhieni unrhyw sail safonol (substantive) amlwg i ddadlau bod yr NGO wedi gweithredu'n anghyfreithlon.


D - Nid yw'r rhieni wedi gwneud cais cyn gynted â phosibl neu o fewn tri mis o'r penderfyniad.

Atebodd 60% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?