SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 110

Mae cwmni ('y Cyflogwr') yn cyflogi dyn a menyw fel adeiladwyr. Mae'r Cyflogwr yn gwneud gwaith i adnewyddu gwesty. Mae'r dyn a'r fenyw ill dau yn gweithio ar adnewyddu'r gwesty ac mae eu gwaith yn cynnwys codi ffyn dur (steel rods) mewn i'r nenfwd gwreiddiol er mwyn ei gefnogi.

Un diwrnod mae'r fenyw'n cyrraedd safle'r gwesty mewn cyflwr anaddas i weithio, ar ôl yfed llawer o alcohol y noson gynt. Mae hi'n gosod un o'r ffyn dur yn ddiofal gan olygu bod rhan o'r nenfwd yn dod i lawr ar ben y dyn, sy'n dioddef anafiadau difrifol.

Pa un o'r canlynol sy'n egluro orau pwy all y dyn ei siwio am ddigollediad (compensation) yn sgil ei anafiadau?

A. Y Cyflogwr yn unig oherwydd ei fod yn llwyr atebol yn ddirprwyol (solely vicariously liable).

B. Y fenyw yn unig oherwydd ei bod hi’n llwyr atebol (solely liable) mewn esgeuluster.

C. Y fenyw oherwydd ei bod hi’n llwyr atebol (solely liable) mewn esgeuluster a'r Cyflogwr oherwydd ei fod yn atebol mewn esgeuluster ac yn atebol yn ddirprwyol (vicariously liable).

D. Y fenyw a'r Cyflogwr oherwydd bod ill dau’n llwyr atebol (solely liable) mewn esgeuluster.

E. Y fenyw oherwydd ei bod hi’n llwyr atebol (solely liable) mewn esgeuluster a'r Cyflogwr oherwydd ei fod e’n llwyr atebol yn ddirprwyol (solely vicariously liable).


C - Y fenyw oherwydd ei bod hi’n llwyr atebol (solely liable) mewn esgeuluster a'r Cyflogwr oherwydd ei fod yn atebol mewn esgeuluster ac yn atebol yn ddirprwyol (vicariously liable).

Atebodd 45% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE