Rheoliadau Asesu SQE

Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 2022

1

Diffiniadau

“Manyleb Asesu”: y ddogfen a gynhyrchwyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr sy’n rhoi gwybodaeth am gynnwys yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr

“Ffenestr asesu”: cyfnod o amser a ddiffinnir gan Kaplan, pryd y gall ymgeiswyr sefyll yr asesiadau. Bydd y ffenestri asesu i’w gweld ar wefan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr

“Arholwyr Allanol”: y rhai a benodir felly gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

“FLK”: yr Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol sydd ei hangen i gymhwyso fel Cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr fel y nodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

“SQE”: yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr

“Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr”: y cymwyseddau sy’n ofynnol i gymhwyso fel Cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr fel y nodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

“SRA”: yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr

2

Dyddiad Cychwyn

2.1

Mae’r Rheoliadau hyn yn rheoli’r asesiad SQE o 1 Medi 2021 ymlaen.

3

Gofynion o ran cymhwyster ac adnabod

3.1

Er mwyn cymryd rhan mewn asesiad, bydd yn rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â’r gofynion Adnabod a Diogelwch ar gyfer yr SQE sydd ar gael ar wefan yr SQE.

4

Pasio’r SQE

4.1

Mae’r SQE yn cynnwys dwy ran, sef SQE1 a SQE2.

4.2

Mae SQE1 yn cynnwys dau asesiad, FLK1 a FLK2. Rhaid pasio’r ddau i basio

4.3

Rhaid sefyll FLK1 ac FLK2 mewn un cyfnod asesu, ac eithrio lle mae’r ymgeisydd:

4.3.1

Wedi rhoi cynnig ar FLK1 ac FLK2 ac, ar ôl pasio un o’r asesiadau hyn a methu’r un arall, yn rhoi cynnig arall ar yr asesiad a fethodd;

4.3.2

wedi pasio naill ai FLK1 neu FLK2 ond wedi methu â rhoi cynnig ar yr asesiad arall mewn un cyfnod asesu ac, ar ôl gwneud cais llwyddiannus am amgylchiadau lliniarol o dan Reoliad 12 mewn perthynas â’r methiant i ymgeisio, yn ceisio gwneud yr asesiad arall hwnnw; neu

4.3.2

wedi gwneud cais am addasiadau rhesymol o dan Reoliad 11 ac mae'r addasiadau a wnaed yn caniatáu i'r ymgeisydd roi cynnig ar FLK1 a FLK2 mewn cyfnodau asesu gwahanol.

4.4

Mae SQE2 yn asesiad unigol sydd wedi ei rannu’n ddwy ran - SQE2 llafar ac SQE2 ysgrifenedig, y mae’n rhaid sefyll y ddau mewn un cyfnod asesu.

4.5

Er mwyn pasio’r SQE rhaid i ymgeiswyr basio SQE1 ac SQE2.

4.6

Rhaid i bob ymgeisydd basio SQE1 cyn cofrestru ar gyfer SQE2.

5

SQE1

5.1

Bydd SQE1 yn profi’r defnydd o FLK yn unol â’r Fanyleb Asesu ar gyfer SQE1.

5.2

Er mwyn pasio SQE1, rhaid i ymgeiswyr gael y marc pasio cyffredinol ar gyfer FLK1 a FLK2.

5.3

Bydd y marc pasio ar gyfer FFLK1 a FLK2 yn cael ei osod yn unol â Pholisi Sgorio a Gosod Safonau’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.

6

SQE2

6.1

Bydd SQE2 yn profi’r defnydd o FLK yn unol â’r Fanyleb Asesu ar gyfer SQE2.

6.2

Er mwyn pasio SQE2, rhaid i ymgeiswyr gael y marc pasio cyffredinol ar gyfer SQE2.

6.3

Bydd y marc pasio ar gyfer SQE2 yn cael ei osod yn unol â Pholisi Sgorio a Gosod Safonau’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.

7

Cyfyngiadau amser a chyfleoedd

7.1

Yn amodol ar reoliad 7.4, mae gan ymgeiswyr chwe blynedd o’r dyddiad y gwnaethant sefyll yr asesiad ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr am y tro cyntaf i sefyll yr asesiadau sy’n weddill ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Bydd angen i ymgeiswyr sy’n dal i fod ag asesiadau pellach i’w sefyll ar ddiwedd y cyfnod chwe blynedd hwn ailymgeisio ac ni fydd y marciau pasio blaenorol yn cael eu cario ymlaen.

7.2

Yn amodol ar Reoliad 7.4, bydd gan ymgeisydd sy’n methu FLK1 a/neu FLK2 ar yr ymgais gyntaf ddau gyfle arall i gwblhau’r asesiad(au) a fethodd, (FLK1 a/neu FLK2) o fewn chwe blynedd i’r dyddiad y safodd yr asesiad ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr am y tro cyntaf. Rhaid i ymgeiswyr sy’n methu FLK1 a FLK2 eu hailsefyll yn yr un ffenestr asesu. Os bydd ymgeisydd yn methu FLK1 a/neu FLK2 deirgwaith yn ystod y cyfnod hwn o chwe blynedd, rhaid iddo aros nes bydd y cyfnod hwnnw o chwe blynedd yn dod i ben cyn gwneud cais arall ac ni fydd y marciau pasio blaenorol yn cael eu cario ymlaen.

7.3

Yn amodol ar Reoliad 7.4, bydd gan ymgeisydd sy’n methu SQE2 ar yr ymgais gyntaf ddau gyfle arall i gwblhau’r asesiad o fewn chwe blynedd i’r dyddiad y safodd yr asesiad ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr am y tro cyntaf. Os bydd ymgeisydd yn methu SQE2 deirgwaith yn ystod y cyfnod hwn o chwe blynedd, rhaid iddo aros nes bydd y cyfnod hwnnw o chwe blynedd yn dod i ben cyn gwneud cais arall ac ni fydd y marciau pasio blaenorol yn cael eu cario ymlaen.

7.4

Pan fydd amgylchiadau eithriadol, gall ymgeiswyr wneud cais i’r SRA i ymestyn y cyfnod o chwe blynedd yn Rheoliadau 7.1 a/neu 7.2 a/neu 7.3. Bydd unrhyw estyniad a roddir gan yr SRA am ba bynnag gyfnod a bennir gan yr SRA.

7.5

Ni chaniateir i ymgeiswyr ailsefyll asesiad y maent wedi’i basio er mwyn gwella eu marciau o dan unrhyw amgylchiadau.

8

Bwrdd Asesu

8.1

Bydd y Bwrdd Asesu yn cynnwys:

  • Y Prif Swyddog Gweithredol, SRA, neu ei enwebai, Seicometrigydd Allanol yr SRA, a thri enwebai arall o'r SRA
  • Y Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan, neu ei enwebai, a thri enwebai arall o Kaplan.
8.2

Y Prif Swyddog Gweithredol, SRA (neu ei enwebai) fydd y Cadeirydd. Os na fydd cytundeb, yr SRA fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol.

8.3

Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r Bwrdd Asesu fydd dau o’r rhai y cyfeirir atynt yn Rheoliad 8.1 gan gynnwys cynrychiolydd o’r SRA a chynrychiolydd o Kaplan. Mae’n rhaid i’r Adolygydd Annibynnol ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr fod yn bresennol yn y Bwrdd Asesu fel arsylwr ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, os felly, dim ond gyda chaniatâd yr SRA y gall y Bwrdd Asesu fwrw ymlaen.

8.4

Prif rôl a chyfrifoldebau’r Bwrdd Asesu yw:

8.4.1

adolygu a gwneud penderfyniadau ar ganlyniadau ymgeiswyr yn yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr;

8.4.2

adolygu a gwneud penderfyniadau ar geisiadau am amgylchiadau lliniarol (gweler Rheoliad 12);

8.4.3

adolygu a gwneud penderfyniadau ynghylch honiadau o gamymddwyn ac ymddygiad amhriodol (gweler Rheoliad 13) ac;

8.4.4

adolygu a gwneud penderfyniadau ar unrhyw fater arall y cyfeirir ato

9

Eithriadau

9.1

Pennir eithriadau o unrhyw asesiad gan yr SRA. Nid oes dim eithriadau ar gyfer rhan yn unig o FLK1 neu FLK2 nac SQE2.

10

Ffit i sefyll

10.1

Mae Polisi "Ffit i Sefyll" ar waith ar gyfer yr SQE. Bydd gofyn i ymgeiswyr sy’n cyflwyno’u hunain ar gyfer unrhyw ran o’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr lofnodi datganiad eu bod yn ffit i sefyll yr asesiad. Mae bod yn “Ffit i Sefyll” yn golygu nad yw’r ymgeisydd yn gwybod am unrhyw reswm pam y byddai effaith andwyol ar ei berfformiad yn ystod yr asesiad neu pam y gallai wedyn gyflwyno hawliad am amgylchiadau lliniarol.

11

Addasiadau rhesymol

11.1

Mae’r Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr a’r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol a nodir ym Manyleb Asesu SQE1  a Manyleb Asesu SQE2 yn nodi’r cymwyseddau a’r wybodaeth y mae’n rhaid i bob ymgeisydd feddu arnynt i ddangos eu gallu i ymarfer. Mae’r Safon Trothwy yn nodi’r safon y mae’n rhaid ei chyrraedd er mwyn cymhwyso fel Cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Rhaid i bob ymgeisydd gael ei asesu yn erbyn y Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr a’r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol a rhaid iddo gyrraedd y Safon Trothwy er mwyn bod yn gymwys. Mae Kaplan wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ymgeisydd dan anfantais oherwydd anabledd wrth ddangos ei allu a bydd yn gwneud addasiadau rhesymol i ddulliau asesu ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd (o fewn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010) er mwyn cyflawni hyn. Bydd Kaplan hefyd yn ystyried ceisiadau rhesymol i ddarparu ar gyfer ymgeiswyr sydd â chyflwr/cyflyrau eraill sy’n effeithio ar allu ymgeisydd i ymgymryd â’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Bydd pob cais am addasiadau o’r fath yn cael ei ystyried yn ôl disgresiwn rhesymol Kaplan ac fesul achos.

11.2

Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud cais am addasiadau rhesymol i’r dulliau asesu a’r trefniadau ar gyfer unrhyw ran o’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr yn achos anabledd neu gyflwr arall fel y nodir yn 11.1 uchod wneud hynny yn unol â Pholisi Addasiadau Rhesymol yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.

11.3

Ystyrir bod pob ymgeisydd sydd wedi gwneud cais yn unol â 11.1 ac 11.2 uchod ar gyfer unrhyw ran o’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr ac sy’n cyflwyno’u hunain ar gyfer yr asesiad hwnnw wedi derbyn bod addasiadau rhesymol addas wedi cael eu cynnig a bydd gofyn iddynt wneud datganiad i’r perwyl hwnnw.

11.4

Bydd pob cais yn unol ag 11.1 ac 11.2 yn cael ei ystyried yn unol â Pholisi Addasiadau Rhesymol yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.

12

Amgylchiadau lliniarol

12.1

Diffinnir amgylchiadau lliniarol fel a ganlyn:

12.1.1

camgymeriad neu afreoleidd-dra wrth weinyddu neu gynnal yr asesiad; neu

12.1.2

dystiolaeth o ragfarn wrth gynnal yr asesiad; neu

12.1.3

yn amodol ar y Polisi Ffit i Sefyll a Rheoliadau Asesu SQE, salwch ymgeisydd neu amgylchiadau personol eraill y tu hwnt i’w reolaeth resymol

sy’n effeithio’n sylweddol ac yn andwyol ar farciau neu berfformiad ymgeisydd yn yr asesiad.

12.2

Gall ymgeiswyr sy’n ystyried bod unrhyw un o’r amgylchiadau a amlinellir yn 12.1 wedi effeithio’n sylweddol ac yn niweidiol ar eu marciau neu eu perfformiad mewn unrhyw asesiad o’r fath wneud hawliad am amgylchiadau lliniarol.

12.3

Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud cais am amgylchiadau lliniarol wneud hynny yn unol â Pholisi Amgylchiadau Lliniarol yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.

13

Camymarfer ac ymddygiad amhriodol

13.1

Yn y Rheoliadau hyn, mae’r term “camymarfer” yn cyfeirio at unrhyw weithgaredd a gyflawnir gan ymgeisydd (pa un a yw wedi’i wneud yn fwriadol ai peidio) a allai olygu bod naill ai’r ymgeisydd neu gydymgeisydd yn cael mantais annheg a/neu ormodol mewn cysylltiad â’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Mae “ymddygiad amhriodol” yn cyfeirio at unrhyw ymddygiad aflonyddol a gyflawnir gan ymgeisydd cyn, yn ystod neu ar ôl unrhyw asesiad (pa un a wneir hynny’n fwriadol ai peidio).

13.2

Mae’r canlynol yn rhestr heb fod yn ddihysbydd o’r hyn sy’n gyfystyr â chamymarfer a/neu ymddygiad amhriodol:

13.2.1

copïo ateb rhywun arall naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol;

13.2.2

caniatáu i rywun arall edrych ar eich ateb, ei ddefnyddio neu ei gopïo;

13.2.3

cyfathrebu neu geisio cyfathrebu ag unrhyw ymgeisydd arall yn ystod asesiad;

13.2.4

datgelu neu drafod manylion cynnwys unrhyw elfen o’r asesiad oni bai fod hynny’n cael ei ganiatáu neu y gofynnir am hynny yn benodol;

13.2.5

ffugio bod yn rhywun arall neu unrhyw ymgais fwriadol arall i dwyllo;

13.2.6

mynd ag unrhyw ddeunyddiau neu gymhorthion i mewn nad ydynt yn cael eu caniatáu’n benodol gan y rheoliadau hyn neu gan oruchwyliwr;

13.2.7

ymddygiad sy’n tarfu ar ymgeiswyr eraill neu sy’n effeithio ar redeg unrhyw elfen o’r asesiad yn briodol;

13.2.8

mynd ag unrhyw bapurau, taflenni ateb neu ddeunyddiau eraill neu gopïau ohonynt o ystafell asesu;

13.2.9

darparu a/neu ddosbarthu gwybodaeth am unrhyw elfen o'r asesiad gyda golwg ar gynorthwyo ymgeiswyr presennol neu ddarpar ymgeiswyr;

13.2.10

darparu gwybodaeth ffug a/neu wneud hawliad twyllodrus ar unrhyw adeg, gan gynnwys wrth gofrestru neu archebu, neu fel rhan o hawliad o dan y Polisi Amgylchiadau Lliniarol ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, neu’r Polisi Apeliadau ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr;

13.2.11

methu â dilyn rheolau’r asesiad neu ddefnyddio, ceisio defnyddio, cynorthwyo rhywun arall i ddefnyddio neu geisio cynorthwyo rhywun arall i ddefnyddio unrhyw ddull annheg, amhriodol neu anonest mewn cysylltiad â’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.

13.3

Mewn unrhyw achos lle gwneir honiad o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol mewn asesiad o’r fath yn erbyn ymgeisydd, gellir eithrio’r ymgeisydd o’r asesiad os yw’r ymgeisydd, ym marn o leiaf ddau uwch aelod o staff Kaplan, yn gorfod gwneud hynny er mwyn sicrhau bod yr asesiad yn cael ei gynnal yn briodol.

13.4

Pan fydd honiad o gamymddwyn neu ymddygiad amhriodol wedi’i wneud, hysbysir Cyfarwyddwr Cymwysterau Kaplan (neu ei enwebai) cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Bydd Cyfarwyddwr Cymwysterau Kaplan (neu ei enwebai) yn penderfynu o fewn 10 diwrnod gwaith i gael gwybod am yr honiad a oes achos prima facie i’w ateb.

13.5

Lle bo Cyfarwyddwr Cymwysterau Kaplan (neu ei enwebai) yn penderfynu bod achos prima facie o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol, bydd yn cynnull panel o dri Chyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr (yn ymarfer neu’n peidio ag ymarfer) fan leiaf a all hefyd fod yn aelodau o staff Kaplan (y Panel Arbennig). Bydd y Panel Arbennig yn cael ei gynnull o fewn 30 diwrnod gwaith i’r penderfyniad o dan 13.4. Bydd yr ymgeisydd yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau llafar a/neu ysgrifenedig i’r Panel Arbennig.

13.6

Rhoddir gwybod i’r ymgeisydd am y penderfyniad a wnaed gan y Panel Arbennig o fewn 15 diwrnod gwaith i’w benderfyniad.

13.7

Pan wneir canfyddiad o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol gan y Panel Arbennig, bydd y dyfarniad yn cael ei gyfeirio at y Bwrdd Asesu i’w ystyried.

13.8

Pan fydd y Bwrdd Asesu yn cadarnhau canfyddiad o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol, rhoddir gwybod i’r SRA o fewn 10 diwrnod gwaith. Mae’r SRA yn cadw’r hawl i roi gwybod i gyflogwyr a/neu noddwyr yr ymgeisydd am y dyfarniad.

13.9

Bydd ymgeisydd y mae’r Bwrdd Asesu o’r farn ei fod wedi cymryd rhan mewn camymarfer neu ymddygiad amhriodol mewn cysylltiad ag unrhyw asesiad ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr yn methu’r asesiad hwnnw ac fel arfer ni fydd yn cael sefyll asesiad ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr eto.

13.10

Rhaid i ymgeisydd sy’n dymuno gwneud apêl cam cyntaf neu apêl derfynol yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Asesu wneud hynny’n ysgrifenedig yn unol â Pholisi Apeliadau’r SQE.

14

Tynnu'n ôl o'r arholiadau

14.1

Caiff ymgeiswyr dynnu’n ôl cyn dechrau asesiad, yn amodol ar Delerau ac Amodau’r SQE. Mae tynnu’n ôl yn ystod asesiad yn amodol ar Delerau ac Amodau’r SQE, y Polisi Ffit i Sefyll ar gyfer yr SQE (Rheoliad 10) a Pholisi Amgylchiadau Lliniarol yr SQE (Rheoliad 12).

15

Apelio yn erbyn penderfyniadau’r Bwrdd Asesu

15.1

Gall ymgeisydd wneud apêl cam cyntaf ar un neu ragor o’r seiliau canlynol yn unig:

15.1.1

os oes amgylchiadau lliniarol na ellid bod wedi eu rhoi gerbron y Bwrdd Asesu cyn iddo wneud ei benderfyniad; neu

15.1.2

bod penderfyniad y Bwrdd Asesu, neu'r modd y gwnaed y penderfyniad hwnnw, yn cynnwys afreoleidd-dra o bwys a/neu ei fod yn amlwg yn afresymol a/neu'n afresymegol; neu

15.1.3

bod yr ymgeisydd yn amau canfyddiad y Bwrdd Asesu o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol.

15.2

Yn dilyn apêl cam cyntaf, gall ymgeisydd wneud apêl derfynol ar y sail ganlynol yn unig:

15.2.1

bod penderfyniad y Panel Apêl Cyntaf, neu'r modd y gwnaed y penderfyniad hwnnw, yn cynnwys afreoleidd-dra o bwys a/neu ei fod yn amlwg yn afresymol a/neu'n afresymegol.

15.3

Rhaid i ymgeisydd sy’n dymuno gwneud apêl cam cyntaf neu apêl derfynol wneud hynny’n ysgrifenedig gan ddefnyddio’r ffurflen briodol yn unol â Pholisi Apeliadau’r SQE.

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?