Polisi Ffit i Sefyll

Dyddiad Cyhoeddi: Gorffennaf 2023

  • Mae Polisi Ffit i Sefyll ar waith ar gyfer pob asesiad Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE). Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw sicrhau ei fod yn sefyll yr asesiad dim ond os yw’n ffit i wneud hynny. Mae bod yn ‘Ffit i Sefyll’ yn golygu nad yw’r ymgeisydd yn gwybod am unrhyw reswm pam y byddai effaith andwyol ar ei berfformiad yn ystod yr asesiad neu pam y gallai wedyn gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol. Dyma enghreifftiau o’r sefyllfaoedd y byddai hyn yn berthnasol iddynt:
    • salwch ymgeisydd
    • salwch perthynas agos
    • profedigaeth
  • Mae’r gofyniad o ran bod yn ffit i sefyll wedi’i gynnwys yn Rheoliadau Asesu SQE ac mae’n berthnasol i bob asesiad SQE. Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd lofnodi datganiad neu gadarnhau’n electronig ei fod yn ffit i sefyll yr asesiad. Mae’r datganiad hwn wedi’i atgynhyrchu isod. Ni chaniateir i ymgeiswyr ddechrau’r asesiad oni bai eu bod wedi llofnodi Datganiad Ffit i Sefyll.
  • Os yw ymgeisydd yn credu nad yw’n ffit i sefyll asesiad SQE a’i fod am dynnu’n ôl cyn dechrau’r asesiad, rhaid iddo gyfeirio at Delerau ac Amodau Asesu’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Gellir darparu ad-daliad rhannol yn amodol ar gyflwyno tystiolaeth briodol o fewn yr amser penodedig.
  • Os bydd ymgeisydd yn mynd yn sâl iawn yn ystod asesiad neu os yw’n wynebu amgylchiadau personol annisgwyl neu anrhagweladwy y tu hwnt i’w reolaeth resymol sy’n cael, neu sy’n debygol o gael, effaith sylweddol ac andwyol ar ei berfformiad, dylai ystyried a yw am gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol. Ym mhob achos, rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i Oruchwyliwr yr arholiad am y salwch neu’r amodau personol annisgwyl neu anrhagweladwy cyn gynted â phosibl a chyn gadael y lleoliad asesu fan bellaf. Ni fydd marciau’n cael eu haddasu oherwydd salwch, neu amgylchiadau personol annisgwyl neu anrhagweladwy eraill. Ceir manylion llawn yn Rheoliadau Asesiadau SQE a’r Polisi Amgylchiadau Esgusodol.
  • Ni fydd cais am amgylchiadau esgusodol a wneir mewn perthynas ag amgylchiadau sy'n bodoli cyn yr asesiad fel arfer yn cael ei dderbyn na'i ystyried, oni bai bod ymgeisydd yn gallu dangos tystiolaeth glir pam y gwnaeth roi cynnig ar yr asesiad a llofnodi'r datganiad 'ffit i sefyll'.

DATGANIAD FFIT I SEFYLL

  • Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen y Polisi Ffit i Sefyll ac ni wn am unrhyw reswm a allai gael effaith andwyol ar fy mherfformiad yn ystod yr asesiad ..........(nodwch fel y bo’n briodol) neu pam y gallwn wedyn gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol ynghylch asesiad heddiw.
  • Rwy'n cadarnhau, os byddaf yn mynd yn sâl iawn yn ystod yr asesiad hwn neu'n profi amgylchiadau personol annisgwyl neu anrhagweladwy eraill y tu hwnt i'm rheolaeth, y byddaf yn rhoi gwybod i oruchwyliwr yr arholiad cyn gynted â phosibl a chyn gadael y lleoliad asesu fan bellaf.

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?