Polisi Apeliadau

Dyddiad Cyhoeddi: Ebrill 2024

1

Cyflwyniad

1.1

Cwmpas a diben

Penodwyd Kaplan SQE Limited (Kaplan SQE) gan Solicitors Regulation Authority Limited (“SRA”) fel unig ddarparwr yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (“SQE”) a’r Sefydliad Asesu Pwynt Terfyn (“EPAO”) ar gyfer Prentisiaid Cyfreithwyr. Mae Kaplan SQE yn delio ag apeliadau yn unol â’r Polisi hwn fel sy’n ofynnol gan SRA.

Mae'r Polisi hwn yn nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn mewn achosion lle mae ymgeisydd yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Asesu. Er mwyn osgoi amheuaeth, ni all apêl a gadarnheir arwain at newid i'r marc pasio na newid marciau ymgeisydd.

Pan fydd apêl yn cynnwys cwyn, byddwn yn gohirio’r gŵyn. Bydd y broses gwyno yn mynd rhagddi unwaith y bydd y broses Apelio wedi dod i ben. Dylech gyfeirio hefyd at y Polisi Cwynion.

1.2

Tegwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y Polisi hwn yn deg ac yn dryloyw ac yn cael ei weithredu mewn ffordd sy’n:

  • trin pob ymgeisydd yn gyfartal ac yn deg wrth ystyried eu hapeliadau
  • rhoi rhesymau dros y camau rydym wedi’u cymryd a’r penderfyniad rydym yn ei wneud
  • rhydd rhag rhagfarn
  • cynnwys terfynau amser rhesymol ar gyfer cyflwyniadau a’n hymateb iddynt.
1.3

Cyfrinachedd

Bydd gwybodaeth a ddarperir gan ymgeiswyr dan y gweithdrefnau hyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol a bydd ond yn cael ei rhannu gyda’r bobl hynny mae’n rhaid iddynt wybod er mwyn ystyried yr apêl.

1.4

Terfynau amser

Rydym yn disgwyl y bydd yr ymgeiswyr yn bodloni’r terfynau amser a amlinellir yn y polisi. Lle bo amgylchiadau eithriadol sy’n golygu na all ymgeisydd fodloni’r terfynau amser yn rhesymol, rhaid iddo ein hysbysu cyn gynted ag y bo modd. Lle bo hyn yn cael ei dderbyn, a lle bo'n bosibl, gellir cytuno ar derfynau amser newydd (gweler paragraffau 4.6 a 7.4).

1.5

Ymgeiswyr ag anableddau

Pan fydd ymgeisydd yn nodi bod ganddo anabledd, bydd gwybodaeth ar gael iddo mewn fformatau priodol, a gwneir addasiadau rhesymol i’r achos er mwyn diwallu ei anghenion.

1.6

Adolygu’r Polisi hwn

Caiff y Polisi hwn ei fonitro’n barhaus a bydd newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud a’u rhoi ar waith cyn gynted ag y bo modd. Ar y lleiaf, bydd Kaplan SQE yn adolygu’r polisi hwn a’r holl bolisïau cysylltiedig yn flynyddol fel rhan o’i weithdrefnau sicrhau ansawdd.

2

Diffiniadau

Amgylchiadau esgusodol:

a

Camgymeriad neu afreoleidd-dra wrth weinyddu neu gynnal yr asesiad; neu

b

Dystiolaeth o ragfarn wrth gynnal yr asesiad; neu

c

Yn amodol ar y Polisi Ffit i Sefyll a Rheoliadau Asesiadau SQE salwch ymgeisydd neu amgylchiadau personol eraill y tu hwnt i’w reolaeth resymol

sy’n effeithio, neu sy’n debygol o effeithio, mewn ffordd sylweddol ac andwyol ar farciau neu berfformiad ymgeisydd yn yr asesiad.

3

Apeliadau

3.1

Mae’r Polisi hwn yn darparu ar gyfer proses apelio ffurfiol gyda dau gam: yr apêl cam cyntaf a’r apêl derfynol.

3.2

Mae safon y prawf mewn apêl ar sail tebygolrwydd.

4

Apêl cam cyntaf

4.1

At ddibenion y Polisi hwn, mae apêl cam cyntaf yn golygu cais am adolygiad o benderfyniad y Bwrdd Asesu i fethu ymgeisydd mewn unrhyw asesiad sy’n cynnwys SQE1 a/neu SQE2 yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) neu ganfyddiad o gamymarfer.

4.2

Gellir gwneud apêl cam cyntaf ar un neu ragor o’r seiliau canlynol yn unig:

4.2.1

os oes amgylchiadau esgusodol na ellid bod wedi eu rhoi gerbron y Bwrdd Asesu cyn iddo wneud ei benderfyniad; neu

4.2.2

bod penderfyniad y Bwrdd Asesu, neu'r modd y gwnaed y penderfyniad hwnnw, yn cynnwys afreoleidd-dra sylweddol a/neu ei fod yn amlwg yn afresymol a/neu'n afresymegol; neu

4.2.3

fod yr ymgeisydd yn amau canfyddiad y Bwrdd Asesu o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol.

4.3

At ddibenion 4.2.1 nid yw’r ffaith nad oedd yr ymgeisydd yn ymwybodol o’i ganlyniadau eto yn rheswm pam na ellid bod wedi cyflwyno amgylchiadau esgusodol i’r Bwrdd Asesu.

4.4

Ni fydd unrhyw apêl yn cael ei hystyried ar y sail bod ymgeisydd:

4.4.1

yn dymuno herio dyfarniad academaidd yr asesydd neu’r meini prawf a ddefnyddir i asesu gwaith yr ymgeisydd. Ystyr dyfarniad academaidd yw'r wybodaeth a'r arbenigedd proffesiynol ac ysgolheigaidd y mae'r aseswyr wedi eu defnyddio i ddod i benderfyniad ynghylch perfformiad ymgeisydd mewn asesiad;

4.2.2

yn anghytuno â chanlyniad ei gais am amgylchiadau esgusodol; neu

4.2.3

ddim yn deall nac yn ymwybodol o’r Rheoliadau Asesu SQE.

4.5

Rhaid i ymgeisydd gyflwyno ei apêl cam cyntaf erbyn 16:00 GMT ar y degfed diwrnod gwaith ar ôl dyddiad rhyddhau'r canlyniadau. Lle na ellir darparu tystiolaeth o fewn y 10 niwrnod gwaith, rhaid cyflwyno'r ffurflen apêl cam cyntaf o fewn y terfyn amser gyda thystiolaeth i ddilyn. Bydd terfynau amser ar gyfer cyflwyno oedi tystiolaeth yn cael eu cytuno gyda'r ymgeisydd fel yr amlinellir ym mharagraff 4.6.

4.5.1

Os yw ymgeisydd yn aros am ganlyniad cais am amgylchiadau esgusodol, rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno ei ffurflen apêl cam cyntaf o fewn 10 niwrnod gwaith o’r dyddiad y rhoddir gwybod am ganlyniad yr cais am amgylchiadau esgusodol.

4.6

Fel y nodwyd yn 1.4, disgwylir i ymgeiswyr fodloni'r terfynau amser wrth gyfathrebu â ni. Os na fydd hyn yn bosibl, dylai ymgeiswyr gysylltu â ni yn enquiries@sqe.sra.org.uk i amlinellu'r rheswm dros yr oedi. Gellir cytuno ar ddyddiadau cau diwygiedig, lle bo hynny'n bosibl, gan gyfeirio at sicrhau y gall y panel apeliadau cam cyntaf (Panel yr Apêl Gyntaf) ystyried yr apêl. Bydd apeliadau a gyflwynir y tu allan i'r terfynau amser dim ond yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol lle gellir darparu tystiolaeth ysgrifenedig ategol annibynnol ynghylch pam na oedd yn bosibl bodloni'r amserlenni gofynnol.

4.7

Rhaid cyflwyno’r apêl cam cyntaf ar Ffurflen Apêl Cam Cyntaf SQE  a geir yng Nghyfrif yr Ymgeisydd. Rhaid cynnwys manylion llawn yr apêl a chopïau o’r holl ddogfennau a thystiolaeth berthnasol sy’n cefnogi sail yr apêl.

4.8

Mae cyflwyno apêl cam cyntaf yn digwydd pan fydd y ffurflen apêl wedi'i chyflwyno yn unol â'r broses a bod y tâl o dan baragraff 4.9 wedi'i dalu'n llawn. Rhaid cwblhau'r ddau erbyn y dyddiad cau a nodir ym mharagraff 4.5.

4.9

Cydnabyddir derbyn yr apêl o fewn 5 niwrnod gwaith.

4.10

Codir ffi o £350 am apêl cam cyntaf. Bydd hon yn cael ei had-dalu os caiff yr apêl ei chadarnhau.

4.10.1

Lle mai sail yr apêl cam cyntaf yw methu â darparu cynllun addasiad rhesymol y cytunwyd arno neu gamgymeriad neu afreoleidd-dra wrth ddarparu'r cynllun addasiad rhesymol y cytunwyd arno, ni ddisgwylir i’r ymgeisydd dalu tâl yr apêl cam cyntaf.

5

Y weithdrefn ar gyfer ystyried apêl cam cyntaf

5.1

Bydd Panel yr Apêl Gyntaf yn cwrdd o fewn 25 niwrnod gwaith o’r dyddiad terfyn pan fydd yn rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu hapêl cam cyntaf.

5.2

Bydd tri aelod ar Banel yr Apêl Gyntaf. Ni fydd yr un o aelodau’r panel wedi bod yn aelodau o’r Bwrdd Asesu a oedd yn ystyried canlyniad yr ymgeisydd neu a wnaeth ganfyddiad o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol. Bydd o leiaf un o’r aelodau yn Dwrnai Cymru a Lloegr (yn ymarfer neu ddim yn ymarfer). Bydd un aelod yn cadeirio’r panel.

5.3

Bydd Panel yr Apêl Gyntaf yn penderfynu a yw’r apêl yn:

5.3.1

cael ei gwneud ar un neu ragor o'r seiliau a nodir yn 4.2; ac

5.3.2

wedi'i phrofi gan y dystiolaeth a ddarparwyd.

5.4

Caiff Panel yr Apêl Gyntaf ymgynghori â Chadeirydd y Bwrdd Asesu, aelodau’r Bwrdd Asesu ac unrhyw bobl perthnasol eraill i gael tystiolaeth a gwybodaeth.

6

Penderfyniad Panel yr Apêl Gyntaf

6.1

Gall Panel yr Apêl Gyntaf wneud un o’r penderfyniadau canlynol:

6.1.1

cadarnhau’r apêl

6.1.2

gwrthod yr apêl

6.2

Os bydd Panel yr Apêl Gyntaf yn cadarnhau’r apêl, gall argymell camau pellach. Ac eithrio yn achos apêl lwyddiannus yn erbyn canfyddiad o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol (os felly, bydd marc yr ymgeisydd yn yr asesiad yn sefyll), bydd ymgeiswyr y mae eu hapeliadau’n llwyddiannus fel arfer yn cael cyfle i ail-sefyll yr asesiad a bydd eu cais gwreiddiol yn cael ei ddiystyru.

6.3

Os yw'r ymgais a oedd yn destun yr apêl yn cael ei ddiystyru, gellir gwneud ad-daliad am y cyfan neu ran o ffi'r asesiad, yn unol â Thelerau ac Amodau Asesiadau SQE.

6.4

Ni all Panel yr Apêl Cam Cyntaf newid marc pasio na newid marciau ymgeisydd.

6.5

Bydd Cadeirydd Panel yr Apêl Gyntaf yn hysbysu’r ymgeisydd o’r penderfyniad o fewn 35 niwrnod gwaith o’r dyddiad cau y bydd yn rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu hapêl cam cyntaf, gan roi rhesymau.

6.6

Bydd canlyniad yr apêl derfynol yn cael ei gofnodi a’i gadw ar y Gofrestr Apeliadau y gallai’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) ei harchwilio, a’i adrodd wrth y Bwrdd Asesu.

7

Yr apêl derfynol

7.1

At ddiben y Polisi hwn, mae apêl derfynol yn golygu cais am adolygu penderfyniad Panel yr Apêl Gyntaf.

7.2

Gellir gwneud apêl derfynol ar y sail ganlynol yn unig:

7.2.1

Bod penderfyniad Panel yr Apêl Gyntaf, neu'r modd y gwnaed y penderfyniad hwnnw, yn cynnwys afreoleidd-dra o sylwedd a/neu ei fod yn amlwg yn afresymol a/neu'n afresymegol.

7.3

Rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno ei apêl cam terfynol o fewn 10 niwrnod gwaith o’r dyddiad y cafodd yr ymgeisydd wybod am benderfyniad Panel yr Apêl Cam Cyntaf.

7.4

Fel y nodwyd yn 1.4, disgwylir i ymgeiswyr fodloni'r terfynau amser wrth gyfathrebu â ni. Os na fydd hyn yn bosibl, dylai ymgeiswyr gysylltu â ni yn enquiries@sqe.sra.org.uk i amlinellu'r rheswm dros yr oedi. Gellir cytuno ar ddyddiadau cau diwygiedig, lle bo hynny'n bosibl. Bydd apeliadau a gyflwynir y tu allan i'r terfynau amser dim ond yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol lle gellir darparu tystiolaeth ysgrifenedig ategol annibynnol ynghylch pam nad oedd yn bosibl bodloni'r amserlenni gofynnol.

7.5

Rhaid cyflwyno'r apêl cam terfynol ar Ffurflen Apêl Cam Terfynol SQE, sydd ar gael yng Nghyfrif yr Ymgeisydd. Rhaid iddi gynnwys manylion llawn yr apêl a rhaid i gopïau o'r holl ddogfennau perthnasol a’r dystiolaeth gefnogi'r sail dros apelio.

7.6

Codir ffi o £850 am yr apêl derfynol. Bydd hon yn cael ei had-dalu os caiff yr apêl ei chadarnhau.

7.6.1

Lle mai sail yr apêl cam derfynol yw methu â darparu cynllun addasiadau rhesymol y cytunwyd arno neu gamgymeriad neu afreoleidd-dra wrth ddarparu'r cynllun addasiadau rhesymol, ni fydd disgwyl i’r ymgeisydd dalu tâl yr apêl cam terfynol.

7.7

Cyflwynir apêl derfynol pan fydd y ffurflen apêl cam terfynol wedi’i chyflwyno a bod y ffi dan 7.6 wedi’i thalu’n llawn.

7.8

Bydd Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) yn penderfynu, gan gymryd cyngor fel y bo’n briodol, o fewn 10 niwrnod gwaith o'i derbyn, a yw’r apêl yn wacsaw neu’n flinderus. Gall Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) yn ôl ei ddisgresiwn, wrthod apêl y mae’n rhesymol ystyried ei bod yn wacsaw neu flinderus. Bydd Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) yn hysbysu’r ymgeisydd o’i benderfyniad, gan roi rhesymau.

7.9

Bydd Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai), oni bai bod yr apêl yn ymddangos yn wacsaw neu flinderus, yn cynnull Panel Apêl Cam Terfynol i ystyried yr apêl.

8

Y weithdrefn ar gyfer ystyried yr apêl derfynol

8.1

Bydd Panel yr Apêl Derfynol yn cyfarfod o fewn 30 niwrnod gwaith o benderfyniad Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) dan 7.9 uchod.

8.2

Bydd tri aelod ar Banel yr Apêl Derfynol. Ni fydd yr un o aelodau’r panel wedi bod yn aelodau o’r Bwrdd Asesu a oedd yn ystyried apêl neu ganlyniad yr ymgeisydd nac yn aelod o Banel yr Apêl Gyntaf a ystyriodd yr achos. Bydd o leiaf ddau o’r aelodau yn Dwrnai Cymru a Lloegr (yn ymarfer neu ddim yn ymarfer). Bydd un o’r aelodau sy’n gyfreithwyr yn cael ei benodi’n Gadeirydd y Panel.

8.3

Gall yr ymgeisydd ddewis gwrandawiad llafar neu benderfyniad ar bapur. Os bydd yr ymgeisydd yn dewis gwrandawiad apêl llafar, mae ganddo ef neu hi hawl i gael ffrind neu berthynas gyda ef/hi. Darperir canllawiau ar y drefn i’r ymgeisydd.

8.4

Bydd y Pennaeth Cydraddoldeb ac Ansawdd (neu ei enwebai) yn sicrhau bod yr ymgeisydd a Phanel yr Apêl Derfynol yn cael yr holl wybodaeth briodol o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn cyfarfod Panel yr Apêl Derfynol er mwyn ystyried yr apêl. Dim ond gyda chaniatâd yr ymgeisydd a Chadeirydd y Panel y gellir dosbarthu tystiolaeth hwyr.

8.5

Os bydd yr ymgeisydd, ar ôl dewis gwrandawiad apêl llafar, yn methu â bod yn bresennol, bydd y gwrandawiad yn mynd rhagddo gyda’r ymgeisydd “yn absennol” ac ar sail yr wybodaeth a roddwyd eisoes. Os bydd yr ymgeisydd yn rhoi rheswm derbyniol sydd wedi’i gofnodi dros ei absenoldeb, gellir aildrefnu dyddiad y gwrandawiad.

8.6

Caiff Panel yr Apêl Derfynol fynnu presenoldeb rhywun arall, at ddiben darparu cyngor priodol yn unig. Ni chaiff yr unigolyn hwnnw gymryd rhan yn nhrafodaethau Panel yr Apêl Derfynol ac nid oes ganddo hawl ychwaith i bleidleisio mewn unrhyw benderfyniad. 

9

Penderfyniad Panel yr Apêl Derfynol

9.1

Gall Panel yr Apêl Derfynol wneud un o’r penderfyniadau canlynol:

9.1.1

gwrthod penderfyniad Panel yr Apêl Gyntaf

9.1.2

cadarnhau penderfyniad Panel yr Apêl Gyntaf

9.2

Pan fydd Panel yr Apêl Derfynol yn gwrthod penderfyniad Panel yr Apêl Gyntaf, caiff Panel yr Apêl Derfynol wneud rhagor o argymhellion.

9.3

Ni all Panel yr Apêl Cam Terfynol newid marc pasio na newid marciau ymgeisydd.

9.4

Bydd Panel yr Apêl Derfynol yn hysbysu Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) a’r ymgeisydd o benderfyniad Panel yr Apêl Derfynol o fewn 15 niwrnod gwaith o’r gwrandawiad neu’r penderfyniad ar sail papur, gan roi rhesymau.

9.5

Mae penderfyniad Panel yr Apêl Derfynol yn derfynol.

9.6

Bydd canlyniad yr apêl derfynol yn cael ei gofnodi a’i gadw ar y Gofrestr Apeliadau y gallai’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) ei harchwilio, a’i adrodd wrth y Bwrdd Asesu.

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?